Difrod 'sylweddol' wedi tân ysbyty iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Criwiau tân ar safle Ysbyty Llanarth Court
Disgrifiad o’r llun,

Criwiau tân ar safle Ysbyty Llanarth Court

Cafodd 60 o ymladdwyr tân eu galw i ysbyty iechyd meddwl annibynnol yn Sir Fynwy nos Fawrth i ddiffodd tân "sylweddol".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 15:15 i ysbyty Llanarth Court yn Rhaglan ger Y Fenni.

Mae un o'r wardiau wedi cael difrod difrifol ac mae rhan o adeilad deulawr wedi dymchwel, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Chafodd neb anaf ac mae rhai o'r cleifion wedi cael eu symud i ran arall o'r ysbyty.

Cafodd wyth injan dân ac wyth injan arbenigol eu danfon i'r safle.

Roedd criwiau yn dal yno yn hwyr nos Fawrth ond roedd y sefyllfa dan reolaeth, medd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân.

Mwg yn codi uwchben adeiladau'r ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mwg yn codi uwchben adeiladau'r ysbyty

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni Priory Group, sy'n rhedeg yr ysbyty, roedd y tân mewn adeilad unigol sydd â 18 o welyau.

Dywedodd fod "yr holl gleifion a staff yn ddiogel".

Ychwanegodd fod "rhyw 14 o gleifion wedi cael eu symud i ward arall ar dir yr ysbyty" ac mae tri arall wedi eu symud i Ysbyty Tŷ Catrin, yng Nghaerdydd neu Ysbyty Tŷ Cwm Rhondda yn Ystrad, yn Rhondda Cynon Taf.

Doedd y cwmni ddim am wneud sylw pellach "gan fydd achos y tân nawr yn cael ei ymchwilio".