Sut mae'r wasg yn ymdrin â datganoli yng nghyfnod coronafeirws?

  • Cyhoeddwyd
IMJ

Mae dros 20 mlynedd wedi pasio ers i'r Cynulliad Cenedlaethol agor ym Mae Caerdydd.

Ond er hyn mae'n debyg bod dal peth dryswch ymysg y cyhoedd a'r wasg ynglŷn â ble mae rhai grymoedd yn eistedd, yng Nghaerdydd neu yn Llundain, ac mae argyfwng Covid-19 wedi amlygu hynny dros y misoedd diwethaf.

Mae Dr Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd ac yn newyddiadurwr, ac ef yw golygydd gwefan Nation.Cymru. Mae'n rhannu ei farn ar y pwnc.

Yn 2014 cynhaliwyd pôl piniwn gan BBC ac ICM a ofynnodd i bobol pwy sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Yn anffodus cafodd llai na hanner yr ymatebwyr yr ateb yn gywir: ar ôl 15 mlynedd i ddatganoli, dim ond 48% oedd yn gwybod mai Llywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, oedd yn gyfrifol.

Un rheswm am yr anwybodaeth yn sicr yw gwendid y cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig y cyfryngau Saesneg. Yn hanesyddol, datblygodd papurau newydd Saesneg Cymru o amgylch trefi. Gwnaethpwyd ymdrech i sefydlu papur cenedlaethol Saesneg mor gynnar â'r 1830au ond methwyd oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth gwael.

Er i nifer o'r papurau lleol hyn symud ar-lein bellach, prin yw'r drafodaeth ar faterion o bwys cenedlaethol. Does gan y Daily Post, er enghraifft, y papur newydd sy'n gwerthu orau yng Nghymru, ddim gohebydd yn y Senedd.

Dyw cyfryngau Cymru ddim yn arbennig o wan o'i gymharu â rhai cenhedloedd eraill ond maent yn arbennig o wan o'u cymharu â rhai Prydain, ac o'r rheini y mae mwyafrif poblogaeth Cymru yn cael eu newyddion dyddiol. Does dim llawer o ddiddordeb gan y cyfryngau Prydeinig yng Nghymru oherwydd canran ddigon pitw o'r boblogaeth ydyn ni.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un arolwg o 2016 dim ond tua 5% o boblogaeth Cymru sy'n darllen papurau newydd Cymreig

Dydyn ni chwaith ddim yn genedl gyfoethog iawn o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd ac felly does dim llawer i ddenu gwasanaethau newyddion masnachol sy'n dibynnu ar hysbysebion yn bennaf. Mae rhai yn cwyno o hyd nad yw'r cyfryngau Prydeinig yn talu digon o sylw i ni, ac nad ydyn nhw'n deall datganoli, ond gwastraff anadl yw hynny - does dim cymhelliad iddyn nhw wneud, a'r unig ateb yw i ni greu neu gryfhau ein cyfryngau ein hunan.

Mae'r cyferbyniad yma rhwng gwendid cyfryngau Cymru a chryfder cyfryngau Prydain wedi bod yn broblem ers dros 20 mlynedd, oherwydd yn y cyfamser mae sefydliadau gwleidyddol Cymru wedi cryfhau yn arw. Mae hyn wedi arwain at yr hyn mae rhai yn ei alw yn 'ddiffyg democrataidd' - hynny yw, mae pobol yn pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac Etholiadau Cyffredinol heb ddealltwriaeth lawn o'r hyn y mae gan y llywodraethau a'r gwleidyddion y maent yn eu dewis gyfrifoldeb amdano.

Disgrifiad o’r llun,

Sut mae'r cyfryngau Llundain yn portreadu'r ddau wleidydd yma? Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Phrif Weinidog Prydain, Boris Johnson

Ond yn sgil y pandemig coronafirws mae'r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd wedi ei amlygu yn y cyfryngau fel erioed o'r blaen. Mae cynadleddau i'r wasg dyddiol Llywodraeth Cymru yn cael eu darlledu ar sianel BBC Cymru ac ar rwydweithiau cymdeithasol y Llywodraeth a channoedd o filoedd yn gwylio.

Dyw ymdriniaeth y cyfryngau Prydeinig heb fod yn ddefnyddiol bob tro - ni wneir ryw lawer o ymdrech i esbonio fod Ysgrifenyddion Gwladol y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am iechyd ac addysg yn Lloer yn unig. Ac fe lwyddodd Sky News i alw ein Prif Weinidog yn 'Mike Drakeford'.

Serch hynny cafwyd o leiaf rywfaint o sylw i'r modd y mae ymdriniaeth Llywodraeth Cymru yn wahanol i Lywodraeth Prydain. Yn ogystal mae ambell i bwnc llosg - yn enwedig y perygl bod perchnogion tai haf a thwristiaid yn lledaenu'r firws mewn rhannau o Gymru - wedi corddi'r dyfroedd a denu ymateb anferth gan y cyhoedd.

Does dim amheuaeth fod galw mawr am newyddion am Gymru gan gyfryngau Cymru a'r galw hwnnw wedi cynyddu eto yn sgil y coronafeirws, chwaith. Er enghraifft, mae'r wefan ydw i'n ei golygu, Nation.Cymru, wedi denu 550,000 o ymwelwyr ym mis Ebrill - y cyfanswm cyn hyn oedd 250,000. O gymharu, tua 15,000 oedd gwerthiant Baner ac Amserau Cymru yn 'Oes Aur' y wasg Gymraeg yn yr 19eg ganrif.

Nid ffansïol efallai fyddai awgrymu fod mwy wedi darllen newyddion am Gymru dros y mis diwethaf nag erioed o'r blaen yn hanes y genedl.

O ganlyniad, teg fyddai dweud bod gan Lywodraeth Cymru a datganoli broffil uwch ar hyn o bryd nag erioed cyn heddiw. Mae'n anodd credu, pe bai cwestiwn 2014 yn cael ei ofyn eto yn awr, na fyddai cyfran helaeth o'r ymatebwyr bellach yn ymwybodol bod iechyd yn bwnc datganoledig. Ac fe allai hynny gael oblygiadau go iawn, yn enwedig o ystyried fod coronafeirws yn debygol o barhau i effeithio ar ein bywydau pan ddaw Etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai'r flwyddyn nesaf.

Serch hynny ni fydd yr amgylchiadau arbennig yma'n parhau am byth (gobeithio) ac mae'r darlun hirdymor yn llawer mwy llwm. Er bod galw mwy nag erioed am newyddion am Gymru, gwanhau o hyd y mae gallu ein cyfryngau Cymreig i ddiwallu'r angen hwnnw.

Bydd y cwymp mewn gwerthiant ac arian hysbysebu yn sgil y 'lockdown' yn ergyd drom i sawl papur newydd a oedd eisoes yn crafu byw. A heb werthiant a hysbysebion papur newydd bydd rhaid i sawl safle we newyddion dorri staff hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Beth fydd dyfodol papurau bro yn dilyn y cyfnod ansicr yma?

Mae Reach Plc sydd yn berchen nifer helaeth o bapurau newydd Cymru eisoes wedi gorfod rhoi newyddiadurwr ar gyfnod o seibiant (furlough) ar adeg pan mae mwy o alw am newyddion o Gymru nag erioed. Os yw'r tueddiadau hyn yn parhau bydd yr oblygiadau o ran cau'r 'diffyg democrataidd' yn ddu iawn.

Mae rhai yn dweud mai datganoli darlledu yw'r ateb hirdymor i hyn ond er fy mod i'n cyd-weld i raddau â hynny dw i'n tueddu i feddwl, gan fod cymaint o ddarllen, gwylio a gwrando ar newyddion bellach ar-lein, fod gan Lywodraeth Cymru'r grymoedd yn eu meddiant i fynd i'r afael â'r broblem yn barod fel rhan o'u briff diwylliant.

Yr ateb i'r diffyg, yn fy marn amhoblogaidd i, yw bod angen i Lywodraeth Cymru ddechrau buddsoddi arian cyhoeddus o ddifrif wrth gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru. Mae rywfaint o arian yn cael ei fuddsoddi mewn newyddion lleol yn barod ac mewn gwasanaethau eraill drwy gyfrwng Cyngor Llyfrau Cymru.

Ond mae newyddiaduraeth ymchwiliadol o safon, sy'n gallu dal llywodraethau a sefydliadau gwleidyddol eraill i gyfri, yn costio miliynau nid miloedd. Mae bron pawb yn derbyn fod darlledu cyhoeddus annibynnol yn gryfder yn y Deyrnas Unedig, a does dim rheswm da i Gymru beidio sefydlu gwasanaeth neu wasanaethau newyddion annibynnol o safon gyfatebol sydd wedi eu hariannu gan, ac sy'n atebol i'r cyhoedd yn yr un modd.

O ystyried yr effaith adfywiol y byddai yn ei gael ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru rwy'n credu y gellid cyfiawnhau hynny. Yn y dyfodol, gobeithio na fydd angen pandemig angheuol er mwyn i fwyafrif pobol Cymru gael gwybod pwy sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd.

Hefyd o ddiddordeb: