Coronafeirws: 'Cyfnod argyfyngus' i bapurau newydd lleol

  • Cyhoeddwyd
papurau newydd

Mae'r argyfwng coronafeirws wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar bapurau newydd lleol, meddai rhai newyddiadurwyr.

Yn ôl, Hywel Trewyn, cyn-ohebydd gyda'r Daily Post, mae'n sefyllfa "argyfyngus" i'r diwydiant.

Roedd nifer ohonyn nhw yn ei chael hi'n anodd beth bynnag wrth i gylchrediadau ac incwm hysbysebu ddisgyn.

Cafodd Mr Trewyn yrfa o 30 mlynedd gyda phapurau newydd y Western Mail a'r Daily Post.

"Mae'r pwysau yn reit drwm i ddweud y gwir," meddai.

"Pwysau trwm oherwydd bod 'na ddim digon o bobl yn prynu papurau, dydyn nhw methu mynd allan fel yr oedden nhw.

"Mae hynny yn taro ar nifer y darllenwyr a'r galw am y papurau newydd.

"Mae'n ddyddiau anodd iawn i bapurau newydd."

Mae rhai papurau ar draws y Deyrnas Unedig eisoes wedi stopio cyhoeddi mewn print a newyddiadurwyr wedi colli eu swyddi.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant papurau newydd wedi bod yn gostwng ers sawl blwyddyn

Y Cambrian News ydy'r papur wythnosol sy'n gwerthu orau yng Nghymru.

Cyn y pandemig, roedd 'na bum rhifyn gwahanol ar gyfer ardaloedd penodol, ond dim ond dau sydd erbyn hyn.

"Ni'n trio ein gorau i gadw'r hysbysebion i ddod mewn a chadw pob un mewn swydd," meddai Dylan Davies, golygydd newyddion y papur.

"Ni'n rhoi gwasanaeth mae pobl mo'yn a'r pethau pwysig maen nhw'n gallu gwybod am yn eu hardal nhw.

"O safbwynt y Cambrian News, ni'n gobeithio y byddwn ni'n dal ati ar ôl hyn fod drosodd."