Mwy o droseddau rhyw a hiliaeth ar y rheilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Stryd y Frenhines CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth teithwyr 33.5m o siwrnai yng Nghymru yn 2018-19 - cynnydd o 8%

Mae cynnydd o fwy na 70% wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf yn nifer y troseddau rhyw ar reilffyrdd Cymru, yn ôl ystadegau Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Yn 2018-19, cafodd 52 o droseddau rhyw eu cyflawni ar rwydwaith reilffyrdd Cymru, o'i gymharu â 30 yn y 12 mis blaenorol.

Fe wnaeth cyfanswm y troseddau godi mwy na 13%, ac roedd achosion o hiliaeth, ymosod a throseddau cyffuriau oll ar gynnydd.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod yna "destun pryder" ond pwysleisiodd fod troseddau ar y rheilffyrdd yn digwydd yn "anaml iawn".

Nifer 'sylweddol' o droseddau

O'r 52 trosedd rhyw a gafodd eu cofnodi - cyfartaledd o un yr wythnos - roedd 33 yn erbyn menywod, tri yn erbyn dynion, pedair yn ymwneud â dinoethi anweddus a 12 yn y categori 'troseddau eraill'.

Dyma'r chweched flwyddyn yn olynol i gynnydd gael ei gofnodi yn nhroseddau rhyw ar y rheilffyrdd.

Mae 52 o droseddau o'r fath mewn blwyddyn yn "nifer sylweddol iawn", yn ôl Katie Russell, llefarydd elusen Rape Crisis yng Nghymru a Lloegr.

"Mae un drosedd rhyw, hyd yn oed, yn un gormod," dywedodd, gan ychwanegu "y byddai'n destun pryder o fenywod."

"Mae troseddau rhyw'n cael eu tanhysbysu [i'r heddlu] yn ddifrifol, felly fe all unrhyw gynnydd... fod yn adlewyrchiad fod mwy o bobol yn fodlon dod ymlaen, yn hytrach na chynnydd yn nifer y troseddau rhyw sy'n digwydd.

"Naill ffordd neu'r llall, mae hwn yn nifer sylweddol o droseddau rhyw."

'Trawmatig'

Roedd yna hefyd gynnydd yn nifer troseddau'r drefn gyhoeddus - cyfanswm o 364, a 36 o'r rheiny â chymhelliad hiliol i beri ofn neu ofid. 28 oedd ffigwr y llynedd.

Dywedodd Alex Mayes o'r elusen Cymorth i Ddioddefwyr fod difrifoldeb y troseddau'n "gadael dioddefwyr yn teimlo'n anniogel mewn mannau cyhoeddus am gyfnod hir wedi ymosodiad corfforol, rhywiol neu eiriol.

"I lawer o ddioddefwyr, mae'r elfen o dargedu ynghlwm ag ymosodiad ar sail rhyw, rhywioldeb neu ethnigrwydd yn golygu fod y digwyddiadau hyn yn arbennig o drawmatig."

Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod gwasanaeth neges destun, o bosib, wedi annog pobl i ddod ymlaen i gofnodi troseddau rhyw a chasineb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gangiau traws-sirol yn defnyddio'r rheilffyrdd weithiau i gludo cyffuriau

Roedd yna gynnydd hefyd yn nifer yr arestiadau am fod ym meddiant cyffuriau - o 50 i 82, y nifer uchaf ers 2013-14.

Mae gangiau cyffuriau 'county lines' wedi defnyddio'r rheilffyrdd i symud cyffuriau o ddinasoedd i drefi llai.

Yn Rhagfyr 2019, cafodd 18 o bobl eu carcharu am eu rhan mewn cludo heroin a chocên o Lannau Mersi i Bowys.

Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod camau i fynd i'r afael â gangiau o'r fath, o bosib, yn esbonio'r cynnydd yn nifer troseddau cyffuriau.

1,546 oedd cyfanswm yr holl droseddau ar rwydwaith reilffordd Cymru rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Cododd nifer yr achosion o ymosodiadau cyffredinol o 180 i 261, ac fe gynyddodd yr ymosodiadau yn erbyn swyddogion heddlu o 16 to 31.

Dywed y llu fod "cynnydd mewn trosedd i'w ddisgwyl" pan fo nifer y teithwyr yn cynyddu'n flynyddol ond fod hi'n "bwysig cofio fod dioddef trosedd ar y rheilffordd yng Nghymru yn dal yn anaml iawn".