Mwy o gwynion am droseddau rhyw ar reilffyrdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
TrênFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 112 o droseddau rhyw honedig ar drenau neu mewn gorsafoedd rhwng 2013 a 2017

Roedd plentyn tair oed ymysg y dioddefwyr honedig o droseddau rhyw ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl data newydd.

Rhwng 2013 a 2017 roedd 112 o droseddau rhyw honedig un ai ar drenau neu mewn gorsafoedd trenau yng Nghymru.

Mae'r cwynion blynyddol wedi dyblu yn yr amser hynny - o 15 i 31 - yn ôl data sydd wedi dod i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

Awgrymodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain mai rhagor sy'n adrodd digwyddiadau, yn hytrach na bod cynnydd yn nifer y digwyddiadau.

'Cymryd o ddifrif'

Roedd y troseddau honedig - ar ddioddefwyr o dair oed hyd ar 61 oed - yn cynnwys ymosodiadau rhyw, dinoethi ac un gŵyn yn ymwneud ag annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rhyw.

Mae'r cynnydd dros y pum mlynedd diwethaf yn cyd-fynd â'r ffigyrau ar gyfer y DU gyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trenau Arriva Cymru wedi buddsoddi mewn camerâu ar bob trên

Dywedodd yr arolygydd Phil Hyatt o Heddlu Trafnidiaeth Prydain nad yw'n credu bod cynnydd wedi bod yn nifer y digwyddiadau, ond yn hytrach bod pobl bellach yn fwy parod i gyfeirio'r mater at yr heddlu.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'n hymgyrch 'Report it to stop it'," meddai.

"Dyw hyd at 90% o'r troseddau yma ddim wedi eu hadrodd at yr heddlu yn y gorffennol, felly rydyn ni'n falch iawn bod pobl nawr yn fwy hyderus i wneud hynny.

"Efallai y byddai pobl yn meddwl na wnawn ni gymryd yr hyn maen nhw'n ei ddweud o ddifrif. Gallai sicrhau y byddwn ni."

Dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru, Bethan Jelfs bod y cwmni wedi buddsoddi mewn camerâu ar bob trên a chamerâu corff i rai gweithwyr yn dilyn cynllun peilot diweddar.

"Dylai hynny fod yn gysur i'n cwsmeriaid, oherwydd rydyn ni eisiau iddyn nhw deimlo'n ddiogel," meddai.