Difrodi ceir staff gwasanaeth iechyd mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae ceir tri aelod o staff ar shifft nos yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar wedi eu difrodi ym maes parcio'r ysbyty.
Cafodd ffenestri'r cerbydau eu dinistrio ac mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod y cyfnod yma'n "amser anodd iawn i'n staff ac mae'r digwyddiad yma yn peri loes."
Shifft nos
Dywedodd Tracy Davies, sydd yn gymhorthydd nyrsio gyda'r bwrdd iechyd: "Fe wnes i orffen fy shifft nos a darganfod fod tri char wedi eu difrodi.
"Rwy'n teimlo'n drist iawn fod rhywun wedi gwneud hyn. Mae'n beth ofnadwy i ddigwydd ar unrhyw amser ond rydym oll yn gweithio mor galed ar hyn o bryd i ymateb i bandemig Covid, felly roedd yn ofnadwy i ddarganfod fod hyn wedi digwydd tra roeddem yn gofalu am ein cleifion.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe fydde ni'n ddiolchgar petae nhw'n cysylltu gyda'r bwrdd iechyd neu'r heddlu."
Dywed Heddlu'r De fod y digwyddiad wedi digwydd rhwng 19:00 ar ddydd Gwener 1 Mai a 07:30 fore dydd Sadwrn 2 Mai.
Mewn datganiad dywedodd y llu fod swyddogion wedi cynyddu'r nifer o batrolau ar safle'r ysbyty a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i geisio dod o hyd i'r drwgweithredwyr.
Dywedodd yr Arolygydd Simon Merrick: "Pan mae ein gweithwyr iechyd yn mynd i'r gwaith, gan beryglu eu hunain i helpu ag achub eraill, mae rhywun allan yna'n credu ei fod yn iawn i dargedu eu ceir.
"Mae'n warthus ac rydym yn benderfynol o ddod o hyd i'r rhai sydd yn gyfrifol - rwy'n sicr gyda help y gymuned y gallwn wneud hyn".
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod*149910, neu ffonio Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2020