Gobaith o greu prawf Covid-19 i wledydd incwm isel

  • Cyhoeddwyd
Profion
Disgrifiad o’r llun,

Does dim angen offer diogelwch personol er mwyn cynnal y profion

Mae gwyddonwyr yn Aberystwyth yn hyderus y bydd prawf newydd am Covid-19 yn barod i gael ei ddefnyddio o fewn y chwe mis nesaf.

Yn brawf sy'n rhatach na'r rhai sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, y gobaith ydy helpu gwledydd llai datblygedig i ddelio gyda'r feirws.

Mae prawf Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei gynllunio fel bod modd ei gynnal yn ddiogel gyda chyn lleied o offer arbenigol â phosib.

Does dim angen offer diogelwch personol chwaith.

Profion drud

Mae'r profion sy'n cael eu cynnal yn y DU ar hyn o bryd yn dadansoddi geneteg y feirws mewn labordai, gan ddefnyddio peiriannau arbenigol drud.

Mewn gwledydd llai datblygedig, byddai cynnal yr un profion yn amhosib.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Arwyn Edwards bod "pwysau dychrynllyd ar bob gwyddonydd sy'n gweithio ar coronafeirws"

Dywedodd Dr Arwyn Edwards, sy'n arwain y tîm o ymchwilwyr: "Ni'n gweld faint o straen mae'r coronafeirws yn achosi ar y Deyrnas Unedig ac ar Gymru.

"Mae hynny'n digwydd mewn gwlad sydd wedi datblygu'n economaidd ac sydd â gwasanaeth iechyd cenedlaethol.

"Dyw nifer o wledydd ledled y byd ddim mor ffodus, felly byddan nhw dan bwysau sylweddol iawn pan fydd y coronafeirws ar ei anterth yn eu gwledydd nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Y nod ydy cynnal y prawf yn ddiogel gyda chyn lleied o offer arbenigol â phosib

Fe ddechreuodd y gwaith ymchwil ym mis Mawrth, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau o fewn y misoedd nesaf.

"Y pwysau sydd arnom ni fel gwyddonwyr yw cael y canlyniad cywir - nid o anghenraid y canlyniad positif mae pawb yn dyheu amdano," meddai Dr Edwards.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ar adegau fel hyn - mae 'na bwysau dychrynllyd ar bob gwyddonydd sy'n gweithio ar coronafeirws i sicrhau bod yr ymchwil maen nhw'n ei greu yn dwyn ffrwyth."