Ffatri beiriannau Ford i ailagor yr wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr Ford ym Mhen-y-Bont ar OgwrFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithwyr Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn dychwelyd i'r gwaith yr wythnos nesaf, ond dim ond tan fis Medi

Cyhoeddodd cwmni Ford y bydd ei ffatri beiriannau ceir ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn ailagor yr wythnos nesaf.

Mae'r 1,200 o weithwyr wedi bod ar absenoldeb ffyrlo ers 25 Mawrth oherwydd y pandemig.

Roedd rhai yn poeni na fyddai'r ffatri yn ailagor o gwbl, gan y bydd yn cau am byth ym mis Medi.

Dywedodd Ford ei fod yn bwriadu ailddechrau cynhyrchu yn eu ffatri beiriannau yn Dagenham hefyd.

Ynghyd a ffatri'r cwmni yn Valencia, Sbaen, mae'n golygu fod pob un o ffatrioedd Ford yn Ewrop yn cynhyrchu unwaith eto.

Newid gofynion a chostau cynhyrchu

Daeth cyhoeddiad y cwmni wedi i weithwyr Toyota ar Lannau Dyfrdwy ddychwelyd i'w gwaith yr wythnos hon, o dan drefn newydd sy'n caniatau ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle.

Dywedodd Graham Hoare, cadeirydd Ford yn y DU, fod y cwmni yn dilyn safonau ymbellhau cymdeithasol llym, a'u bod wedi cryfhau mesurau iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau lles y gweithwyr.

Cyhoeddodd y cwmni yn 2019 y byddai'r ffatri ym Mhen-y-Bont yn cau erbyn 25 Medi eleni.

Dywedwyd mai newid mewn gofynion eu cwsmeriaid ynghyd â chostau cynhyrchu oedd wrth wraidd y penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images