Geni tsimpansî ym Mae Colwyn ynghanol pryderon ariannol

  • Cyhoeddwyd
TsimpansîFfynhonnell y llun, Tom Wooton/Sw Fynydd Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sw Fynyddig Gymreig yn gartref i 11 tsimpansî, gan gynnwys y babi newydd diweddar

Mae'r Sw Fynyddig Gymreig ym Mae Colwyn wedi croesawu aelod newydd i'w plith yn ystod wythnosau diweddara'r argyfwng coronafeirws - babi tsimpansî.

Y tsimpansî benywaidd yw'r un cyntaf i gael ei geni yn y sw ers 18 mlynedd ond fe ddaw ar adeg anodd, gyda bygythiad mawr i ddyfodol y sw.

Ers 22 Mawrth mae giatiau wedi bod ar gau oherwydd yr argyfwng coronafeirws a hynny ar adeg pan ddylai'r Sw fod yn croesawu ymwelwyr.

Argyfwng tymor-hir

"Roedden ni meddwl y sefyllfa debygol oedd y byddai fel cyfnod clwy'r traed a'r genau neu ffliw adar oedd wedi arwain at gau'r sw am gyfnod byr," meddai Nick Jackson, cyfarwyddwr y Sw.

"Roedd ganddo ni arian wrth gefn ond beth sydd wedi digwydd yn awr yw bod rhywbeth oedda ni wedi meddwl fyddai'n argyfwng tymor byr wedi troi'n un hir dymor.

"Mae'r arian wrth gefn yn prysur ddiflannu a ry' ni'n gwario £30,000 yr wythnos i gadw'r sw i fynd.

"Da ni wedi cymryd mantais o gynllun furlough y llywodraeth ond hyd yn oed ar ôl lleihau gwariant cymaint ag y gallwn ni mae costau yn parhau i fod yn £30,000."

Dywedodd Mr Jackson mai'r incwm disgwyliedig ar gyfer Ebrill, oedd yn cynnwys gwyliau'r Pasg, oedd £326,000.

Ond mae'r pandemig yn golygu nad oes unrhyw arian wedi dod i'r sw drwy gydol mis Ebrill a'r un fydd y stori ym mis Mai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe weithiodd Nick Jackson am gyfod yn Sw Llundain cyn dychwelyd i Ogledd Cymru

'Brwydro bob modfedd'

Mae'r Sw yn cyflogi 34 o staff parhaol drwy'r flwyddyn yn ogystal â gweithwyr tymhorol.

Ychwanegodd Mr Jackson eu bod wedi wneud ceisiadau am gymorth ariannol o lywodraethau Cymru a San Steffan ac yn disgwyl clywed am hynny.

Ac er yn ddiolchgar iawn am yr ymateb "anhygoel" i'w hapêl gan aelodau'r cyhoedd, mae Nick Jackson yn rhybuddio bod bygythiad gwirioneddol i ddyfodol y sw.

"Faint bynnag 'da ni'n gael o ran cefnogaeth alle ni ddim gorffwys oherwydd da ni'n gwybod y bydden ni angen symiau mawr o arian i'n cadw ni fynd ac i'n cadw'n hyfyw," meddai.

Ail-gartrefu anifeiliaid?

"Mae'n drist meddwl os 'na alle ni gadw i fynd yna mynd lawr fydden ni.

"Os bydde ni'n cau yna mi fydden ni yn ceisio canfod cartrefi newydd i'r anifeiliaid ond tydi hynny ddim yn bosib o hyd.

"Da ni ddim hyd yn oed eisiau meddwl am be alle ddigwydd pe byddai'n rhaid i ni gau. Ond 'da ni'n benderfynol i beidio a da ni am frwydro pob modfedd o'r ffordd."

Tad Nick, Robert Jackson, sefydlodd yn Sw ym 1963 ar Stad Flagstaff ym Mae Colwyn Uchaf.

Ond chwe mlynedd yn ddiweddarach roedd dyfodol y sw yn y fantol pan fu farw Robert Jackson mewn damwain tra'n pysgota ar yr Afon Elwy.

Ei weddw Margaret, ynghyd â Nick a'i frodyr Tony a Chris gymerodd yr awenau.

Fe ddatblygodd y Sw i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd gogledd Cymru yn ogystal a gwneud gwaith cadwriaethol.

Ffynhonnell y llun, AW
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nick Jackson bod y Sw yn dod a gwerth £2m ir economi lleol yn flynyddol

Elusen, Cymdeithas Swolegol Cymru, fu'n gyfrifol am y sw ers 1983 ac ychwanegodd Nick bod cynlluniau ar gyfer dyfodol y Sw ar y gweill cyn yr argyfwng.

Ynghanol difrifoldeb y pandemig, mae'r Sw wedi cael newyddion da gyda sawl genedigaeth - a'r tsimpansî benywaidd yw'r diweddaraf.

"Mae hyn wedi bod yn wych i ni ac mae'n codi ysbryd a morál y staff."

Cystadleuaeth enw

I ddathlu'r babi newydd, mae'r sw wedi lansio cystadleuaeth i enwi'r tsimpansî ac yn gwahodd y cyhoedd i gynnig enw sydd yn gysylltiedig gyda unigolion sydd yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

"Da ni'n chwilio am enwau sydd yn dangos ein dyled i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol," medd Nick Jackson.

"Mi fydde ni wastad yn gwybod bod y babi yma a'r babis eraill gyrhaeddodd yn ddiweddar wedi dod yn ystod ar argyfwng ofnadwy 'ma.

"Da ni yn edrych ymlaen i'r amser pan alle ni ailagor ac y bydd pobl yn gallu dod mewn a gweld y babis newydd."