Pryder am les cŵn bach yn ystod y cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Sylvia Many Tears
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sylvia Vanatta o ganolfan Many Tears yn poeni am ddyfodol cŵn bach sy'n cael eu prynu yn ystod y cyfyngiadau

Mae yna rybudd i bobl beidio prynu cŵn bach ar fympwy yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Mae staff canolfan achub anifeiliaid Many Tears yn Sir Caerfyrddin yn poeni y gallai cŵn sy'n cael eu prynu yn ystod y cyfyngiadau presennol gael eu hesgeuluso unwaith y bydd y rheolau wedi cael eu llacio.

Yn y cyfamser, mae un o elusennau lles anifeiliaid mwyaf y DU wedi newid ei slogan i adlewyrchu'r angen i feddwl yn ofalus cyn prynu ci yn ystod y cyfyngiadau.

Mae Leo, sy'n flwydd oed, yn enghraifft o gi sy'n cael gofal yng nghanolfan Many Tears yng Nghefneithin ar ôl i'w berchennog gwreiddiol golli diddordeb.

Arferion drwg

Fe gafodd y ganolfan alwad gan filfeddyg o Abertawe a ddywedodd y byddai'n rhaid rhoi'r Jackapoo i gysgu.

Roedd e'n dangos arwyddion o ffyrnigrwydd a doedd ei berchennog ddim yn gallu ymdopi.

Dywedodd perchennog y ganolfan, Sylvia Vanatta fod Leo'n enghraifft dda o gi sy'n mabwysiadu arferion drwg yn ifanc pan nad yw e wedi cael ei ddysgu i ymddwyn.

"Mae edrych ar ôl ci ifanc yn waith caled hyd yn oed pan nad oes yna gyfyngiadau," meddai. "Mae'n waith caled i'w edrych ar ei ôl a'i ddysgu sut i ymddwyn.

"Fedrwch chi ddim dysgu ci newydd yn y cyfnod ry'n ni ynddo nawr sut i fihafio o flaen pobl ddieithr neu cŵn eraill. Does 'na neb y gallwch chi ofyn iddyn nhw a mae'r gwasanaethau hyfforddi cŵn wedi cau.

"Mae'n bosib na fyddwch chi yn sylweddoli tan bod y ci yn naw mis oed bod y ci yn anodd i'w drin. Mewn sefyllfa fel hon fe fydd ganddoch chi broblem mawr ar eich dwylo."

Mabwysiadu

Mae canolfan Many Tears yn brysur iawn ar hyn o bryd ond gan nad ydy ymwelwyr yn gallu dod yno mae cartrefu rhai o'r cŵn yn cael ei wneud yn rhithiol.

Mae Karen Jones o Benclawdd, perchennog newydd Archie, ymhlith y cwsmeriaid a lenwodd ffurflen i'w fabwysiadu ar-lein.

"Roedd yn rhaid i mi ddangos lluniau o fy nghartre' a'r ardd gefn i'r ganolfan," meddai. "Gan ein bod ni wedi mabwysiadu ci o'r blaen, fe gawsom ni ein derbyn.

"Mae'n achosi loes i mi feddwl be' fyddai'n digwydd i'r cŵn heb ganolfannau fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen Jones o Benclawdd ymhlith y rhai sydd wedi mabwysiadu ci o ganolfan Many Tears

Ond mae Sylvia Vanatta yn poeni y bydd yna ragor o bwysau ar y ganolfan yn yr wythnosau nesaf i dderbyn rhagor o gŵn sydd wedi eu hesgeuluso. Fe allai hynny fod yn anodd hefyd oherwydd, ers i'r cyfyngiadau ddod i rym, does yna ddim incwm yn dod i mewn i gynnal y ganolfan.

Mae ystadegau diweddar gan Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y DU, yn awgrymu bod nifer yr ymholiadau ar y we am 'brynu ci' wedi cynyddu 120% yn ystod mis cyntaf y cyfyngiadau.

Fe newidiodd yr elusen ail hanner ei slogan gyfarwydd 'A dog is for Life, not just for Christmas' i 'not just for lockdown' er mwyn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn prynu ci yn ystod y cyfyngiadau.

'Ymrwymiad mawr'

Angela Wetherall yw un o reolwyr canolfan Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hi'n dweud ei bod hi'n allweddol bod pobl yn meddwl yn ofalus am yr ymrwymiad y mae'n ei olygu.

"Ry'n ni yn poeni y gwelwn ni sefyllfa debyg yn codi yn yr wythnosau nesaf a ry'n ni yn ei weld ar ôl cyfnod y Nadolig ble mae pobl eisiau cael gwared a'u cŵn pan mae realiti'r ymrwymiad wedi eu taro. Mae hi'n hynod bwysig bod pobl yn meddwl am y sefyllfa tymor hir."

Mae gan Sylvia Vanatta gyngor amserol i unrhyw un sy'n ystyried prynu ci yn ystod y cyfnod yma.

"Os nad oes gennych chi brofiad o ofalu am gŵn ond yn ystyried prynu ci bach, yna byddwch yn amyneddgar tan y bydd rhai o'r cyfyngiadau wedi eu llacio.

"Fe fydd hi'n haws cael cyngor a hyfforddiant a bydd y ci yn gallu ymgynefino yn well yn gymdeithasol. Pan fydd y cyfnod hwn drosodd gwnewch yn sicr bod digon o amser gennych chi i roi blaenoriaeth i ofalu am gi."