Hadleigh Parkes ymysg nifer fydd yn gadael y Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi cadarnhau y bydd canolwr Cymru Hadleigh Parkes ac hyfforddwr y blaenwyr Ioan Cunningham yn gadael y rhanbarth.
Mae Parkes, sydd wedi ennill 29 cap dros Gymru, yn debyg o ymuno gyda thîm Panasonic Wild Knights yn Japan.
Bydd Brad Mooar yn dychwelyd i Seland Newydd i ymuno gyda thîm hyfforddi'r Crysau Duon a hynny cyn y bydd y Scarlets yn ail ddechrau ymarfer pan fydd tymor 2019-20 yn ail ddechrau.
Cadarnhawyd eisoes mai Glenn Delaney fydd yn olynu Mooar.
Chwaraewyr yn gadael
Y Chwaraewyr eraill fydd yn gadael y Scarlets yw Kieron Fonotia, Corey Baldwin, Jonathan Evans, Morgan Williams, Simon Gardiner, Rhys Fawcett and Tom James.
Roedd James eisoes wedi datgan ei fwriad i ymddeol o rygbi.
Bydd y chwaraewyr yn gadael cyn y bydd unrhyw ymarferion yn ail ddechrau.
Bydd penderfyniad Parkes i symud i Japan yn olygu na fydd bellach yn gymwys i chwarae i Gymru gan y bydd gyda chlwb tu allan i'w wlad ac yntau heb ennill 60 o gapiau neu fwy.