'Dwi'n colli fy wyrion ond yn canu iddynt ar y we'

  • Cyhoeddwyd
Mary Lloyd-DaviesFfynhonnell y llun, Mary Lloyd-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae canu yn rhyddhau emosiwn - mae'n ffordd dda o gael gwared o luddiant, tensiwn, dicter, medd Mary Lloyd-Davies

"Dwi'n colli fy nau ŵyr bach yn ofnadwy," medd y gantores Mary Lloyd-Davies o Lanuwchllyn, "ac felly dwin'n canu rhigymau iddynt ar y we.

"Dwi fel arfer yn edrych ar eu hôl unwaith yr wythnos ond gan eu bod yn byw yng Nghricieth, dwi ddim yn gallu eu gweld nhw ers i'r cyfyngiadau ddod i rym," ychwanegodd.

"Dwi'm yn gwybod os ydyn nhw'n edrych - ond dwi'n canu bob wythnos iddyn nhw ar facetime."

'Canu yn rhyddhau tensiwn'

Ond ar nos Sul mae'r gantores fyd-enwog i'w gweld ar ganol ffordd yn Llanuwchllyn yn arwain y pentre cyfan i ganu emynau.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Siddall
Disgrifiad o’r llun,

Mary Lloyd-Davies yn arwain y canu yn Llanuwchllyn

"Does wybod lle 'newch chi ddod o hyd i fi - ar y linell wen ynghanol y ffordd fel arfer wedi ymgolli yn y canu.

"Dwi wrth fy modd. Mae canu yn rhyddhau emosiwn - mae'n ffordd dda o gael gwared o luddiant, tensiwn, dicter ac yn rhoi cymaint o bleser i rywun.

"Mae'n gallu eich codi o lefydd trist a thywyll iawn ac yn y cyfnod yma mae'n pontio'r cenedlaethau mewn cyfnod lle mae pobl yn colli gweld ei gilydd."

Ffynhonnell y llun, Carwyn Siddall
Disgrifiad o’r llun,

Y bobl yn canu yn Llanuwchllyn ar nos Sul

Y gweinidog, y Parchedig Carwyn Siddall, sydd wedi sicrhau fod y peth yn bosib a bod modd clywed Mary Lloyd-Davies yn canu o un pen y pentref i'r llall.

"Ry'n ni'n canu pedwar emyn i gyd - ac yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel sy'n cyd-fynd â'r canllawiau presennol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae hwn yn gyfnod gwahanol i'r hyn ry'n wedi ei brofi o'r blaen," medd y Parchedig Carwyn Siddall

"Syniad un person oedd o i ddechrau ac mae wedi cydio.

"'Dan ni'n canu pedwar emyn a thipyn o fynd ynddynt.

"Dan ni ddim wedi cael tywydd gwael hyd yma - ond i ddweud y gwir dwi'n meddwl bod y canu wedi cadw y tywydd drwg bant - ac mae'r gwynt yn gallu bod o gymorth i'r sain.

"Mae'n gyfnod gwahanol iawn - cyfnod lle 'dan ni hefyd yn gweld pobl yn dod i'r drws wrth i angladd fynd heibio," ychwanegodd y parchedig Siddall.

"Ydi mae nain yn dal i ganu ac yn byddaru pawb," medd Mary Lloyd-Davies sy'n hyfforddi nifer o gantorion eraill.

"Ma' gweld eraill yn mwynhau'r canu ac yn ceisio eich efelychu chi yn bleser pur - ac mae'n bleser gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn canu.

"Ydw dwi'n canu rhigymau i'r ddau ŵyr bach bob wythnos - gobeithio nad ydynt yn rhy brysur a'u bod yn edrych weithiau ar nain yn canu," ychwanegodd Ms Davies.

Mae modd clywed mwy o hanes y canu yn Llanuwchllyn ar Bwrw Golwg, am 12.30 ddydd Sul ar BBC Radio Cymru.