Cefnogwyr Caerdydd yn cael eu rhyddhau heb gyhuddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd, gafodd eu harestio am "sylwadau hiliol" yn ystod gêm ym mis Ionawr, wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd y pedwar eu harestio wedi'r gêm yng Nghwpan FA Lloegr oddi cartref yn Reading ar 25 Ionawr.
Roedd CPD Caerdydd wedi cwestiynu'r honiadau cyn mynnu ymddiheuriad gan glwb Reading.
Ond gadarnhaodd Heddlu Thames Valley bod y cefnogwyr wedi cael eu rhyddhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2020