Apêl i fusnesau Gwynedd roi stoc i fanciau bwyd lleol

  • Cyhoeddwyd
Huw Antur EdwardsFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Huw Antur Edwards, cyfarwyddwr gwersyll Glan-llyn yr Urdd wrth lond cist car o fwydydd i'w gyfrannu

Mae Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn wedi bod ymhlith y busnesau cyntaf i ymateb apel am gyfraniadau bwyd i fanciau bwyd y sir.

Mae Cyngor Gwynedd a'r gymdeithas dai Adra yn apelio i fusnesau yng Ngwynedd ystyried cyfrannu bwyd dros ben i fanciau bwyd lleol os ydyn nhw wedi cau oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Roedd gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn ymhlith y rhai cyntaf i gyfrannu mewn ymateb i ymgyrch gan Gyngor Gwynedd a'r gymdeithas dai Adra i helpu unigolion a theuluoedd anghenus.

Bydd trefnwyr yn cludo'r bwyd, ei ddidoli a'i ddanfon i wahanol rannau o'r sir.

Maen nhw'n gofyn am fwydydd sych fel reis, pasta a siwgr, a bwydydd tin fel ffa neu bysgod, sydd dal o fewn ei ddyddiad.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o fusnesau wedi ymateb i'r galw yn barod, gan gyfrannu bwydydd sych o'u storfeydd

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, aelod Datblygu'r Economi a Chymuned ar gabinet Cyngor Gwynedd, fod cannoedd o fusnesau wedi gorfod cau ers dechrau'r argyfwng a nifer wedi ymateb i'r galw eisoes.

"Mae'r ymgyrch yn galw ar berchnogion caffis, siopau a pherchnogion busnesau llety, yn ogystal â rhai sy'n rhedeg atyniadau sydd â chownter bwyd," meddai, "i ystyried cyfrannu unrhyw fwyd sych fyddai'n mynd yn wastraff i'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf yng Ngwynedd drwy'r banciau bwyd lleol."

'Braf medru helpu'

Mae gwersyll Glan-llyn ar gau ers canol Mawrth, ac yn ôl cyfarwyddwr y safle, Huw Antur Edwards "roedd gennym ni gryn dipyn o stoc bwyd fyddai wedi mynd yn wastraff."

Dywedodd: "Rydan ni wedi bod yn cydweithio efo criw cymunedol yn Llanuwchllyn ers cychwyn yr argyfwng ac wedi cyfrannu'r bwydydd ffres oedd gennym iddyn nhw ar gyfer cynllun pryd ar glud yr ardal.

"Ond mae gennym dipyn o stoc o fwyd sych ar ôl, ac mae'n braf iawn medru ei ddefnyddio i helpu'r banciau bwyd yn ystod y cyfnod anodd yma."

Heriau cyflenwi

Mae yna 10 banc bwyd yng Ngwynedd, ac roedd sicrhau cyflenwad rheolaidd o fwyd i gynnal y gwasanaeth yn her cyn yr argyfwng presennol.

Ond mae'r galw "wedi cynyddu'n aruthrol wrth i deuluoedd ar draws y sir wynebu pwysau ychwanegol" medd y Cynghorydd Thomas.

"Mae'r Cyngor wedi cyfrannu bwydydd sych o'r ysgolion yn barod, ac rydym wedi partneru hefo cymdeithas dai Adra i brynu nwyddau hanfodol iddynt," meddai.

"Mae'n gyfnod anodd i bawb, ac mae'n galonogol gweld cymaint o ewyllys da."

Dywedodd Sarah Schofield, un o gyfarwyddwyr cymdeithas dai Adra, fod y banciau bwyd "yn chware rôl mor bwysig wrth sicrhau bod bwyd ar gael i'r sawl sydd fwyaf ei angen - dyma un o anghenion mwyaf sylfaenol pobl."