Covid-19: Caniatâd i chwaraeon proffesiynol ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorffennodd y gêm rhwng Abertawe a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth yn gyfartal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Ionawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd athletwyr a chlybiau proffesiynol yng Nghymru yn cael ailddechrau ymarfer.

Daw'r cyhoeddiad wrth i glybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd baratoi i ailddechrau sesiynau hyfforddi yr wythnos nesaf.

Roedd y clybiau wedi gofyn am eglurder gan aelodau'r Senedd ynglŷn â pha weithgareddau a ganiateir yn eu canolfannau ymarfer o dan reoliadau Cymreig.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd yn bwriadu rhwystro Abertawe a Chaerdydd rhag ailddechrau'r tymor ym Mhencampwriaeth Lloegr.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda Chynghrair Bêl-Droed Lloegr yn ogystal â chyfarwyddwr criced Morgannwg, Mark Wallace, ynglŷn â dychwelyd i ymarfer.

Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas mewn datganiad ysgrifenedig y gallai'r rhai hynny oedd yn ennill eu bywoliaeth o chwaraeon proffesiynol ailddechrau ymarfer gan lynu at reoliadau Cymru.

"Mae ein campwyr chwaraeon proffesiynol ar y lefel uchaf o chwaraeon a byddant yn ceisio dychwelyd i hyfforddiant mor gynnar â phosibl," meddai.

"Dyma eu proffesiwn; maen nhw'n ennill bywoliaeth o chwaraeon - y maes chwaraeon yw eu gweithle.

"Mae rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio gartref lle bo hynny'n bosibl; lle nad yw hynny'n bosibl, rhaid i gyflogwyr gymryd pob mesur rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd ymbellhau corfforol.

"Mewn cyd-destun chwaraeon proffesiynol, mae hyn yn golygu y gall hyfforddiant ar gyfer ein campwyr chwaraeon proffesiynol barhau ar yr amod y gall y clybiau - fel cyflogwyr - gymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle, p'un a yw hynny ar gae hyfforddi neu mewn stadiwm."

Roedd Abertawe a Chaerdydd wedi bod yn bwriadu dychwelyd i ymarfer dydd Llun gyda profion ar gyfer coronafeirws yn rhan o brotocolau y Gynghrair Bêl-Droed.

Cadarnhaodd Abertawe y bydd eu chwaraewyr yn cael eu profi ddydd Gwener gyda'r rheolwr Steve Cooper yn pwysleisio mai "diogelwch oedd y flaenoriaeth".

Ychwanegodd Cooper y byddai'r clwb yn trafod gyda'r chwaraewyr dros y penwythnos ac y bydden nhw'n parchu pryderon unrhyw chwaraewyr a'r rhai fyddai'n penderfynu peidio dychwelyd o ganlyniad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio ailddechrau ymarferion "yn gam cyntaf pwysig, a allai arwain at ailddechrau chwaraeon cystadleuol. Bydd chwaraeon yn ailddechrau yn y dyfodol, y tu ôl i ddrysau caeedig i ddechrau".