Mwy o alw am wasanaeth cwnsela i arweinwyr eglwysi
- Cyhoeddwyd
Mae'r galw am wasanaeth cwnsela i glerigwyr a gweinidogion ar gynnydd, medd cyfarwyddwr gwasanaeth Cynnal, dolen allanol.
"Dwi ben arall y ffôn yn ddyddiol gyda dau neu dri am eu bod yn dymuno marw," medd Wynford Ellis Owen, "ac yn cwnsela degau o rai eraill yn fisol.
"Y dyddiau 'ma dydy hi ddim yn syndod bod unigrwydd yn fwy o broblem nag erioed - ac er nad ydym yn medru cwrdd wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, mae'n bwysig ein bod yn cynnal sesiynau ar-lein," ychwanega Mr Owen.
Dywed un gweinidog nad yw'n dymuno meddwl be fyddai wedi digwydd iddo petai e ddim wedi dod ar draws gwasanaeth Cynnal.
Fe wnaeth 70 droi at y gwasanaeth yn 2019 ond bellach mae'r nifer yn 110 wrth i'r gwasanaeth, cyn Covid-19, gynnal sesiynau yng Nghaerdydd, Caernarfon, Bae Colwyn, Wrecsam, Caerfyrddin ac Aberystwyth.
"Dyma'r weinidogaeth newydd," medd Mr Owen, "yr hyn 'dan ni'n ei wneud yw dysgu gweinidogion i fod yn lleisiau mwy effeithiol i Dduw yn y byd.
"'Dan ni'n d'eud wrth bobl bod yn iawn iddyn nhw fod yn fregus a bod yn beth da iddyn nhw rannu profiadau.
"Yn nyddiau Covid-19 mae unigrwydd yn llethu nifer - mae gorbryder, materion yn ymwneud â ffydd, iselder, cynnal y Sul i gynulleidfa fechan ac ymddeoliad yn llethu eraill.
"Be 'dan ni'n 'neud yw dweud bod gweinidogion yn ddynol fel pawb arall a'u bod yn bwysig iddyn nhw fyw yn y byd real. Yn ystod yr wythnosau diwethaf 'dan ni wedi bod yn cynnal sesiynau ar Zoom."
Mae'r gwasanaeth cyfrinachol ar gael i glerigwyr, gweinidogion a'u teuluoedd ac i staff eglwysi.
'Methu darllen y Beibl o 'mlaen i'
Mae Guto Llywelyn yn weinidog yn ardal Hendy-gwyn ac wedi elwa yn fawr o'r gwasanaeth.
"Dwi newydd fod mewn sesiwn ar Zoom," meddai Guto, "ac oni bai am wasanaeth Cynnal fyddwn i ddim yn gallu parhau fel gweinidog.
"Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl adeg y Pasg 2018 ges i gyfnod o or-bryder, stress, anxiety pan oeddwn i yn y pulpud - cymaint felly fel na allwn i ddarllen y Beibl o 'mlaen i.
"Doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi, ac fe es i at Cynnal ac yn fuan darganfuwyd fod fy trauma yn deillio o hunanladdiad mam 30 mlynedd yn gynt a nawr oedd y trauma yn dod mas. Mae'r pethau yma yn ddwfn ynom ni a ni ddim yn gwybod bod nhw yna yn aml.
"I ddechrau ro'n i'n gweld Wynford am awr unwaith y mis ond yn y flwyddyn a chwarter dwetha dwi wedi parhau mewn grŵp - grŵp adferiad Caerfyrddin sy'n rhoi nerth i'n gilydd gobeithio.
Ychwanegodd: "Rydw i mewn lle da ar hyn o bryd - mae e yng nghefn y meddwl i, ond drwy ras Duw dwi'n gallu cadw i fynd a dwi wedi dysgu gwahanol dechnegau.
"Dwi ofan meddwl beth fyddai wedi digwydd i mi pe na fyddai Cynnal yna - yn sicr fydden i ddim wedi medru parhau fel gweinidog heb y cymorth.
"Mae gyda fi ffrind da sydd yn mynd drwy gyfnod ofnadwy ar hyn o bryd a mae e'n gweud ei hunan bod Covid yn gwneud ei sefyllfa yn waeth.
"Byddwn i'n annog unrhyw un i droi at Cynnal i gael help."
'Rhai'n credu nad ydym yn gweithio'
Un arall sy'n dweud bod bywyd yn gallu bod yn anodd yn y cyfnod hwn yw'r Parchedig Anita Ephraim, gweinidog Gofalaeth Bro Trawsfynydd.
"Yn ffodus dwi ddim angen cwnsela," meddai Mrs Ephraim wrth Cymru Fyw, "ond mae bywyd y gweinidog yn wirioneddol anodd rŵan gyda rhai'n credu nad ydym yn gweithio o gwbl."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ganol yr wythnos fe nododd Ms Ephraim "ei bod yn biti mawr fod nifer o bobl yn camddehongli swydd gweinidog".
"Mae cymaint o bobl yn dweud mai dim ond ar y Sul yr ydan ni yn gweithio, ac yn ystod y cyfnod diarth yma yr ydan ni ynddo nad ydan ni yn gweithio o gwbl," meddai.
"Ar ran pob gweinidog yn yr ardal yma ym Meirionnydd carwn bwysleisio nad ydy hynny yn wir o gwbl. Rydym ar alwad 24 awr y dydd, saith dydd yr wythnos, pob wythnos o'r flwyddyn."
Roedd hi'n awyddus i ychwanegu mai'r hyn sy'n gwasgu arni fwyaf yw cael ei gorfodi "i sefyllfa lle nad wyf yn gallu cynnal pobl yn awr eu hangen. 'Dan ni'n gorfod gadael pobl sydd yn unig yn fwy unig."
"Mae pawb yn meddwl bod y gweinidog yn iawn," medd Wynford Ellis Owen, "ond maen nhw'n ddynol fel pawb arall ac ar adegau angen eu cynnal. Does dim isio bod â chywilydd o hynny."
Bydd modd clywed mwy am y gwasanaeth ar Bwrw Golwg, ddydd Sul 24 Mai am 12.30 ar Radio Cymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020