Wil Sam: Cofio awdur, mecanic a thaid
- Cyhoeddwyd
Wil Sam oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o'i ysgrifennu. Am dros 50 mlynedd bu'n cyhoeddi dramâu a straeon byrion am gymeriadau ei fro - Eifionydd.
Bu'n cadw garej yn Llanystumdwy cyn ei werthu yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu.
Ar achlysur 100 mlwyddiant ei eni fe ofynnodd Cymru Fyw i'w ŵyr, Gwilym Parry, am ei atgofion o'r dyn tu ôl i'r dramâu.
William Samuel Jones, W. S. Jones, Wil Sam.
Roedd ganddo sawl enw ond roeddwn i'n ddigon ffodus i gael ei alw'n Taid. Ac wrth gwrs, pan fydda i'n ei gofio, nid fel dramodydd y bydd hynny, ond fel taid.
Gyda gwyliau o unrhyw fath yn ymddangos fel breuddwyd ffŵl ar hyn o bryd byddaf yn meddwl am wyliau plentyndod yn Nhyddyn Gwyn.
Roeddwn i a fy mrawd, Gwyn, wrth ein boddau yn gwneud y daith fer i dŷ Taid a Nain ble'r oedd croeso mawr a thylwyth teg yn gosod llestri brecwast dros nos. Felly hefyd fy mrawd a fy chwaer iau a fy nghefndryd wedi hynny.
Gwneud y pethau y mae'r rhan fwyaf o blant yn eu gwneud gyda'u teidiau yr oeddem ni am wn i; cerdded i lawr at yr afon, cicio gwynt, mynd am dro i Ynys Môn.
Roeddwn yn ymwybodol bod rhywbeth yn arbennig amdano achos roedd pobl yn stopio i siarad ag o ym mhob man, rhai yr oedd o'n eu hadnabod yn iawn ac eraill nad oedd ganddo syniad pwy oeddent! A thestun y sgwrs yn amlach na pheidio? Beic!
Os mai fel taid yr wyf yn ei gofio'n gyntaf, efallai mai fel mecanic yr wyf yn ei gofio wedyn. Roedd o byth a beunydd yn un o'i gytiau yn stwna trwy'i flwch 'mân bethau hwylus' yn chwilio am nytan neu washar i drwsio beic neu foto beic neu ryw declyn arall.
Wil yr awdur
Y cof cyntaf sydd gen i o sylweddoli ei fod yn sgwennwr oedd Sgid Hwch. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â hi, ffilm o 1992 yw Sgid Hwch, un hynod amserol am ymdrechion Tori i danseilio hunaniaeth Gymreig pentref yng ngogledd-orllewin Cymru.
Go brin fy mod i fel hogyn ifanc wedi llawn werthfawrogi neges wleidyddol y ffilm. Dweud y gwir, dwi ddim yn cofio a oedd y ffilm gyfan wedi ei thapio ar y VHS, ac mae'n siŵr mai rhan o'r apêl oedd y ffaith bod neb llai na George Huws yn actio ynddi!
Dwi'n cofio gwylio un o'r golygfeydd agoriadol rhwng Llion Williams a Trefor Selway drosodd a throsodd. Awgryma Bobi y dylai ei gyflogwr, Owain Huws, agor muselieum yn ei garej ac roedd y llinell, 'Rhyngthat ti a fi, dwi ddim yn rhy hoff o Saeson' yn apelio'n fawr at genedlaetholdeb syml plentyn.
Dwi'n gwybod erbyn hyn bod y llinell flaenorol yn un llawer gwell: 'Fysach chi'n llenwi'r lle 'ma chi, efo pobl... a Saeson.'
'Sgwennu am ei bobl ei hun'
Wrth gwrs, fel yr es i'n hŷn fe sylweddolais fod llawer mwy i ganon llenyddol Wil Sam. A mantais cael awdur fel taid ydi bod cyfoeth o atgofion ar gof a chadw, ymhell wedi iddo ef ein gadael.
Sgwennu am ei bobl ei hun, i'w bobl ei hun, yn ei dafodiaith ei hun a wnaeth Taid ac felly mae ei waith yn ddrych clir o'r dyn.
Roeddwn i yn y brifysgol pan fu farw ac yn digwydd bod roeddem yn astudio ei waith yn eithaf buan wedi hynny.
Fe allai hynny fod wedi fy nhristáu ond wnaeth o ddim; yn hytrach dwi'n cofio teimlo balchder mawr wrth sylweddoli bod gwaith Taid, mecanic o Lanystumdwy, yn cael ei drafod ochr yn ochr ag ysgolheigion-ddramodwyr fel Saunders Lewis a John Gwilym Jones.
Fyddai Taid ddim yn gallu bod ddim pellach o'r byd hwnnw. Yr unig raddau a gafodd o oedd rhai er anrhydedd, ag yntau yn ei wythdegau. Fe ddisgrifiodd un o'r rheiny, â'i dafod yn ei foch, fel y peth pwysicaf i ddigwydd iddo ers iddo ymuno â'r RAC!
Nid oedd yn or-hoff o seremoni a rhodres ond fe gyflawnodd lawer er gwaethaf hynny ac mae'n bwysig nodi'r pen-blwydd arbennig yma trwy gofio amdano.
Bydd rhaglen arbennig yn dathlu gyrfa a gwaith Wil Sam gyda Dei Tomos ar Radio Cymru, brynhawn Sul 31 Mai am 5.
Hefyd o ddiddordeb: