'Mae ffydd a defaid wedi bod 'da fi drwy 'mywyd'

  • Cyhoeddwyd
IdwalFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Drwy hap a damwain y datblygwyd y cymeriad Idwal, medd Ifan Gruffydd

Ydi mae Idwal yn ôl ar y sgrin - y cymeriad diniwed a gonest hwnnw nad oes dim yn mynd yn iawn iddo am ei fod yn cymryd pob dim yn llythrennol.

Wrth ateb cwestiwn y gweinidog, "Weles i ddim mohonoch chi yn y capel nos Sul?" ateb amlwg Idwal, wrth gwrs, yw "Na, do'n i ddim 'na."

Ond mae'r capel yn golygu llawer i'r un sydd wedi creu ac yn portreadu'r cymeriad sef Ifan Gruffydd o Dregaron.

"Dau beth sydd wedi bod gyda fi drwy fy oes yw ffydd a defaid," meddai Ifan, sy'n ffermwr ac yn flaenor yng nghapel Bwlch-gwynt.

"Ydi mae fy ffydd yn gwbl bwysig i fi," medd y digrifwr, "heb hwnnw fyddwn ni ddim y person yr ydw i - na fy nghymeriadau chwaith.

Ffynhonnell y llun, Martyn Lloyd-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pregethwr enwog Dr Martyn Lloyd-Jones gryn ddylanwad ar Ifan yn y 1970au

"Mae capel wedi bod yn rhan o'm mywyd i erioed a chadw'r Sul - dim ots beth oedd yn digwydd, roedd popeth yn stopio adre ar y Sul ac roedd hyd yn oed y ci defaid yn gwybod bod hi'n ddydd Sul wrth i ni gael gwared â'n dillad gwaith a gwisgo siwt.

"Ches i ddim o fy ngorfodi i fynd - ond dyna batrwm bywyd... mynd i ysgoldy Rhiwdywyll ar bwys Tregaron bob dydd Sul.

"Wedi i fi droi'n 12 oed fe ges i fynd i ddosbarth Ysgol Sul y bobl hŷn ac yn y fan honno roedd pawb yn trafod pethau fel colledigaeth, uffern a thragwyddoldeb - ro'n i'n joio'r trafod gonest hwnnw'n fawr iawn."

'Yr efengyl yn 'neud sens'

Ond mae'n debyg mai mynd ar hap i Aberystwyth i wrando ar y pregethwr a'r meddyg enwog Dr Martyn Lloyd-Jones a newidiodd ei fywyd go iawn.

"Digwydd edrych yn y Cambrian News 'nes i a gweld bod e yn pregethu yn un o gapeli Aberystwyth y noson honno - a dyma fi'n cyrraedd capel llawn dop o bobl yn gwisgo jîns.

"Roedd ei neges yn rhyfeddol - ar ôl hynna, ro'dd yr efengyl yn 'neud sens a fi'n credu bo fi wedi dod i ddeall ystyr pechod gwireiddiol a maddeuant."

Ffynhonnell y llun, Capeli Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arferai Ifan fynychu ysgoldy Rhiwdywyll, cangen o gapel Bwlch-gwynt Tregaron

Mae Ifan yn gobeithio nad yw'n rhy debyg i Idwal ond eto mae'n marwygu ei onestrwydd.

"Yn aml ni ddim yn ddigon gonest," meddai, "yn enwedig yn ein crefydd. Ond wi'n gobeithio bod pobl ddim yn gweld fi cweit mor pathetig ag Idwal er bod rhai yn gofyn i fi weithiau lle mae Felicity!"

Drwy hap a damwain y daeth Idwal i fodolaeth ond mae Ifan yn credu bod "e'n un o'r cymeriadau sydd wedi creu yr argraff fwyaf".

Dechrau 'Ma' Ifan 'ma'

"Angen creu sgets ar frys o'n i ar gyfer y rhaglen Ma' Ifan 'ma. Be wi'n deimlo sy'n bwysig wrth gwrs yw uniaethu â bywydau pobl - a dyma fi'n meddwl am brofiad cyffredin i bawb, sef colli rhywun.

"Profiad trist, cyffredin, wrth gwrs, ond yn y tristwch yna mae 'na hiwmor hefyd.

"A dyma Idwal yn mynd i gydymdeimlo - ac yn ei onestrwydd dyma fe'n egluro wrth y weddw fach na fyddai hi bellach yn clywed sŵn rhywun arall yn y nos ac efallai y byddai'n syniad iddo gael parot.

"Ro'dd y gynulleidfa yn rowlo chwerthin a dyma fi'n gwybod felly bod Idwal yn hit."

Ffynhonnell y llun, Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hiwmor yn rhyddhau tensiynau ond be sy'n bwysig yw 'nabod eich cynulleidfa," medd Ifan

Mae'n bwysig cael cymeriadau fel Idwal, medd Ifan, fel bod pobl yn gallu cael dihangfa.

"Mae hiwmor yn rhyddhau tensiynau ond be sy'n bwysig yw 'nabod eich cynulleidfa. Wi'n siŵr bo fi'n croesi rhai ffiniau weithiau ond dyw cynnwys budreddi yn yr hiwmor ddim yn gweithio i fi.

"Allai ddim 'neud hynna - a 'dyw hynna ddim yn ddoniol i fi. Mae lot fwy o ddiddordeb 'da fi mewn ffars.

"Ond wi'n awyddus i bwysleisio nad oes dim yn stopio'r Cristion rhag cael hwyl - wi'n ffan mawr iawn o Milton Hywel Jones, comedïwr Cristnogol sy'n perfformio mewn llawer o eglwysi ac un arall sy'n arddel ei ffydd yw Tim Vine. Mi fydden ddiddorol siarad â'r ddau yna."

'Rhaid cydnabod gwendidau'

I Ifan mae hiwmor a ffydd yn mynd law yn llaw ac y mae'n credu y gallai capeli efelychu dawn y comedïwr.

"Yn aml mae gormod o stiffness yn y ffordd o gyflwyno ein crefydd. Rhaid i bregethwyr ddod lawr i'r un lefel â'r gynulleidfa er mwyn cyflwyno eu neges," ychwanega.

"Rhaid hefyd cydnabod gwendidau. I ddweud y gwir yn y gwendid mae'r doniolwch yn aml.

"Dwi wedi portreadu un cymeriad sy'n anobeithiol am wneud gwaith DIY. Mae'r wraig yn dod adre â chwpwrdd mewn flat pack ac yn nodi bod dyn y siop wedi dweud wrthi bod plentyn pump oed yn gallu rhoi'r cwpwrdd at ei gilydd ac wrth gwrs ateb y dyn yw "ond do's dim plentyn 'da ni!" Yn y gwendid yn aml mae'r ateb.'

Mae'n credu hefyd bod yr argyfwng Covid diweddar wedi dangos anallu dyn i reoli popeth.

"Ydi mae gwyddoniaeth wedi symud ymlaen lot," meddai, " ond i fi dyw gwyddoniaeth na dim arall yn ateb gwacter bywyd.

"Dim ond yr efengyl all wneud hynny. Mae'r efengyl i bawb ac y mae ynddo'r ymateb i bob un ohonom. Mae gen i amheuon fel eraill ac yn aml dwi'n gofyn pam hyn ac arall a does yna ddim byd yn fwy o ryfeddod na Christ a'i atgyfodiad."

Mae cyfweliad Ifan Gruffydd i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru am 12.30, ddydd Sul 31 Mai.

Hefyd o ddiddordeb: