Yr her i deuluoedd wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio

  • Cyhoeddwyd
Emily King a'i phlantFfynhonnell y llun, Llun teulu

Pa mor anodd fydd hi i blant gadw at bellter cymdeithasol wrth weld anwyliaid am y tro cyntaf ers misoedd?

Mae Llywodraethau Cymru wedi lleddfu rhywfaint ar y cyfyngiadau, felly o ddydd Llun gall dwy aelwyd gwrdd os ydyn nhw yn yr awyr agored ac aros 2m ar wahân.

Ond dywedodd golygydd gwefan neiniau a theidiau fod defnyddwyr wedi mynegi pryderon am ymarferoldeb y newidiadau.

Ychwanegodd mam i ddau o blant ei bod wedi penderfynu peidio â mynd â'i phlant i weld eu neiniau a theidiau sy'n byw gerllaw.

'Allwch chi ddim eu cofleidio'

Mae Emily King yn byw yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf, gyda'i gŵr Stephen a'u dau blentyn, sy'n un a dwy oed.

"Bydd yn rhaid i ni esbonio iddyn nhw, ie, gallwch chi weld eich mam-gu a'ch taid ond na allwch chi ddim eu cofleidio ac ni allwch fynd yn eu tŷ," meddai.

"Gallwch chi fynd yn eu gardd, ond pan maen nhw'n galw allwch chi ddim eu cwtsio, allwch chi ddim mynd gyda nhw fel yr oeddech chi'n arfer ei wneud.

"Mae hynny'n mynd i fod yn dalcen caled."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cyn y cyfyngiadau roedd plant Emily King yn aros gyda'u mam-gu a thad-cu unwaith neu ddwywaith yr wythnos

Dywedodd fod eu mam-gu wedi gadael teganau a chacennau bach wrth eu drws a'i bod wedi dweud wrth y plant eu bod wedi cael eu danfon gan y dylwythen deg.

Dywedodd Bethan Phillips, seicolegydd clinigol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghaerdydd, fod angen i bobl benderfynu beth sy'n gweithio iddyn nhw.

"Rwy'n credu mai fy nghyngor i fyddai meddwl am y manteision a'r anfanteision a meddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi a'ch plant a'ch teulu ehangach," meddai.

"Fore Llun, efallai y bydd rhai teuluoedd yn penderfynu gyrru i dŷ mam-gu ac maen nhw'n mynd i fynd i'w gweld, ac efallai y bydd eraill yn penderfynu peidio â gwneud hynny, ac mae'r ddau benderfyniad hynny'n iawn."

Ychwanegodd: "Mae'n bwysig sylweddoli bod gan bobl wahanol anghenion a gwahanol flaenoriaethau a gwahanol bethau yn digwydd.

"Os allwch chi, ceisiwch beidio â barnu eraill na chael eich dylanwadu gyda'r hyn y mae pobl eraill yn ei wneud oherwydd ni fydd hynny'n ddefnyddiol."

'Anodd i blant iau'

Mae'n cynghori rhieni i siarad â'u plant mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran, a hefyd â'u teuluoedd, a gwneud cynllun am yr hyn a fydd yn digwydd cyn unrhyw gyfarfyddiad.

"Efallai meddwl am rai gemau y gallech chi eu chwarae a allai gadw pellter cymdeithasol ond a fydd ar yr un pryd yn annog y berthynas honno," meddai.

"Felly gêm o rownderi, neu gêm o griced os oes gennych chi le y tu allan, neu rywbeth sydd ddim yn golygu eistedd a chofleidio a chusanu a'r math yna o bethau."

Dywedodd Lara Crisp, golygydd gwefan rhwydweithio cymdeithasol neiniau a theidiau Gransnet, fod defnyddwyr y wefan wedi bod yn mynegi pryderon ynghylch sut y bydd y newidiadau yn gweithio.

Ffynhonnell y llun, Bethan Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y seciolegydd clinigol Bethan Phillips fod angen i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain beth sydd orau

"Dywedodd un nain wrtha i ei bod wedi cwrdd yn ddiweddar gyda'i hwyres chwech oed oedd methu deall pam fod rhaid aros yn bell o'n gilydd," meddai.

"Roedd hi eisiau dal ei llaw a'i helpu i ddringo coeden.

"Fe orffennodd gyda'r wyrion yn llefain, wedi cynhyrfu ac wedi eu drysu ynghylch yr hyn oedd yn digwydd.

"Mae llawer o blant hŷn yn deall pam fod hyn yn digwydd ond mae'n anodd i blant iau."

Dywedodd fod defnyddwyr ei gwefan yn dal i boeni am ddal y feirws.

"Mae rhai yn teimlo bod y cam nesaf yma wedi cael ei gyflwyno heb gyfiawnder dros y penderfyniad," meddai. "Mae yna ddrwgdybiaeth sylweddol am y llywodraeth.

"Maen nhw'n poeni mai moch cwta ydyn nhw. Maen nhw fwyaf mewn perygl ac maen nhw'n poeni."

Ymddwyn 'yn gyfrifol'

Wrth gyhoeddi'r newidiadau ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar gyngor gwyddonwyr a'r prif swyddog meddygol.

Dywedodd y dylai teuluoedd "feddwl yn ofalus" am sut i weld ei gilydd ac i ymddwyn yn "gyfrifol".

Ychwanegodd efallai na ddylai plant fyddai methu cadw at bellter cymdeithasol fod yn rhan o gynlluniau "yn y lle cyntaf".

Bydd angen i unrhyw aelwydydd sy'n cyfarfod aros yn eu hardal leol - o fewn pum milltir fel "rheol gyffredinol" - ac aros dau fetr ar wahân.