Aelod o staff CPD Dinas Caerdydd yn cael coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o staff Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cael prawf positif am Covid-19.
Cafodd chwaraewyr a staff pob un o glybiau'r Bencampwriaeth eu profi rhwng 28 a 29 Mai, gyda 10 person yn profi'n bositif am yr haint o wyth clwb.
Bydd yr aelod o staff Caerdydd nawr yn hunan ynysu yn unol â chanllawiau'r Gynghrair Bêl-droed (EFL) a'r llywodraeth.
Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi dilyn canllawiau'r gynghrair am ddychwelyd i ymarfer.
Dywedodd y clwb na fydden nhw'n enwi'r aelod o staff fodd bynnag, er mwyn gwarchod cyfrinachedd meddygol.
Mae canllawiau'r EFL yn dweud: "Bydd unrhyw chwaraewyr neu staff y clwb sydd wedi profi'n bositif nawr yn hunan ynysu yn unol â chanllawiau'r EFL, a dim ond y rheiny sydd wedi cael prawf negyddol fydd yn cael caniatâd i fod yn y cyfleusterau ymarfer."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020