Galw am atgofion coronafeirws Gwynedd yn Storiel
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi bod yn tynnu lluniau neu fideo sy'n darlunio bywyd yn ystod y pandemig?
Ydych chi wedi cadw dyddiadur? Oes gennych chi ryseitiau rydych chi wedi eu creu yn ystod y cyfnod yma?
Os oes, yna mae amgueddfa Storiel ym Mangor eisiau clywed gennych chi.
Y bwriad ydy rhoi darlun o'r cyfnod helbulus yma yng Ngwynedd ar gof a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prif fwriad yr apêl ydy ychwanegu at y casgliadau hanesyddol yn ôl Helen Gwerfyl, swyddog casgliadau amgueddfaol Storiel a Phrifysgol Bangor.
"Fe fydd eitemau dogfennol, lluniau a ffotograffau yn mynd i Wasanaeth Archifau Gwynedd a bydd y gwrthrychau yn mynd i gasgliad Storiel ac mi fedran ni ddweud hanes y pandemig yng Ngwynedd yn y dyfodol ac mi fydd hefyd yn cyfrannu at ddiwylliant a hanes Gwynedd," meddai.
Mae artist lleol, Femke Van Gent eisoes wedi creu murlun ar wal allanol yn Storiel i ddiolch i'r gweithwyr allweddol am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
Mae'r enfys yn amlwg yn y murlun, symbol o obaith at y dyfodol.
Artist creadigol arall sydd wedi cyfrannu darn o gelf ydy Mari Gwent.
Roedd hi'n gweithio ar brosiect celf hefo'r gymuned ym Mhenygroes pan ddechreuodd y pandemig a bu rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith.
Ers hynny mae hi wedi creu darn newydd i adlewyrchu'r cyfnod a bydd yn cael ei drosglwyddo i Storiel pan fydd y cyfyngiadau wedi eu llacio.
"Be wnes i oedd trio creu gwaith oedd yn adlewyrchu'r prosiect arbennig hwnnw a meddwl sut oedd o'n ffitio i'n sefyllfa ni rŵan yn hunan-ynysu," meddai Ms Gwent.
"Dan ni'n dal yn chwarae rhan yn yr hanes lleol, ag allwn ni ddysgu lot o be sy wedi digwydd yn ein hardaloedd ni ag o bosib rhoi cyfraniad positif yn y maes celfyddydol ac yn ehangach."
Mae Storiel yn gofyn i unrhyw un sydd â rhywbeth sy'n adlewyrchu bywyd yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod yma i gysylltu â nhw.
Y gobaith wedyn, pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny, fydd creu arddangosfa yn Storiel ac yna trosglwyddo'r eitemau i Wasanaeth Archifau Gwynedd fel bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael darlun byw o'r cyfnod rhyfedd yma.
Nid Storiel yw'r unig sefydliad i geisio cadw cofnod o'r cyfnod hwn - mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi dechrau apêl a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020