Miloedd yn cofnodi symptomau dyddiol Covid-19 ar ap

  • Cyhoeddwyd
Ap Zoe
Disgrifiad o’r llun,

Nod yr ap yw creu darlun mwy cyflawn o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl ac ar ardaloedd gwahanol

Mae ap sydd yn cadw cofnod o symptomau Covid-19 wedi cael ei lawrlwytho 38,000 o weithiau yng Nghymru hyd yn hyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bwriad gwneuthurwyr yr ap, Covid Symptom Tracker, dolen allanol, yw ceisio rhagweld sut mae'r haint yn datblygu mewn gwahanol ardaloedd, sut mae'n effeithio ar wahanol bobl a ble fydd y pwysau mwyaf ar y gwasanaeth iechyd.

Mae'r ap ar gyfer pawb, nid dim ond pobl sydd â symptomau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ar BBC Radio Wales Breakfast y byddai'r wybodaeth yn helpu'r llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd i weld patrymau a phrofi pobl mewn ardaloedd sydd wedi'u taro'n waeth.

Arwydd cynnar o'r galw tebygol

Cafodd yr ap ei ddatblygu gan ymchwilwyr yng Ngholeg King's yn Llundain a chwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE fel bod pobl yn gallu cadw cofnod o'u hiechyd dyddiol.

Bydd y wybodaeth sy'n cael ei rhannu'n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn rhoi arwydd cynnar o'r galw tebygol ar ysbytai yn y dyfodol.

Bydd Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) Prifysgol Abertawe yn cydweithio gyda gwyddonwyr Coleg King's a Llywodraeth Cymru i ddadansoddi'r data.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pawb i lawrlwytho'r ap "os oes gennych chi unrhyw symptomau neu os ydych chi'n teimlo'n iach".

Byddai hynny, meddai, yn helpu casglu gwybodaeth hanfodol fel bod gwasanaethau'r GIG yn barod ar gyfer nifer uwch o gleifion mewn mannau penodol a "helpu i warchod ein gweithwyr ac achub bywydau".

Dywedodd yr Athro Ymchwil Arweiniol o Goleg King's, Tim Spector: "Mae data amser real manwl gywir yn hanfodol os ydyn ni am drechu'r afiechyd yma.

"Heb brofi manwl gywir ac eang mae'n hanfodol bod gennym ni gymaint o ddata â phosib i'n helpu ni i ragweld ble rydyn ni'n mynd, i weld y cynnydd nesaf o ran galw, fel bod modd defnyddio adnoddau'n effeithiol yn barod i ddiwallu anghenion y cleifion."