Cymro yw pennaeth newydd BBC Radio 1

  • Cyhoeddwyd
Aled Haydn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Aled Haydn Jones

Cymro o Aberystwyth yw pennaeth newydd "yr orsaf radio orau yn y byd ar gyfer pobl ifanc" - BBC Radio 1.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig mae gan Aled Haydn Jones brofiad helaeth ym maes radio, ac mae wedi gweithio mewn sawl rôl ar Radio 1 ers 1998.

Ond dechreuodd ddarlledu ar radio Ysbyty Bronglais pan oedd yn 14 oed. Bu hefyd yn cyfrannu i Radio Ceredigion am gyfnod.

Daeth i sylw ehangach pan fu'n cyflwyno slot ddyddiol yn trafod y gyfres Big Brother ar raglen boblogaidd Chris Moyles, lle cafodd y llysenw 'BB Aled'.

'Mor falch o gymryd yr awennau'

Dros y blynyddoedd mae o hefyd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio yn Gymraeg, yn cynnwys y cyfresi Wawffactor a Stwnsh ar S4C

Yn fwy diweddar, yn ei swydd fel Pennaeth Rhaglenni Radio 1, Aled oedd tu ôl i'r rhaglen Radio 1's Big Weekend UK 2020 pan recordiodd 50 o wahanol artistiaid berfformiadau o'u cartrefi, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd Aled ei fod "mor falch o gymryd yr awennau ar yr orsaf radio orau yn unman yn y byd ar gyfer pobl ifanc".

"Y gerddoriaeth newydd orau, y DJs mwyaf anhygoel, a diddanu ein cynulleidfa ifanc - dyna yw Radio 1 - ac mae gennym dimau ymroddedig i gyflawni hynny.

"Rydym yn gwybod na fydd Radio 1 fyth yn sefyll yn ei hunfan, a byddwn yn gwrando ar ein cynulleidfa ac yn rhoi be maen nhw isio iddyn nhw."

Mae'r swydd yn cael ei chydnabod fel un o'r rhai mwyaf deniadol yn niwylliant pop a phobl ifanc yn y DU, a denodd ymgeiswyr o gefndiroedd radio, teledu, technoleg, cerddoriaeth a digidol.