Covid-19: Agor cwest i farwolaeth gweithiwr iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth gweithiwr gofal iechyd 44 oed o Rhondda fu farw ar ôl cael ei heintio gyda coronafeirws .
Clywodd llys y Crwner ym Mhontypridd fod Allan Macalalad o Llwynypia yn weithiwr cymorth gofal iechyd mewn "amgylchedd theatr" a'i fod wedi mynd yn sâl ar 17 Mai 2020.
Clywodd y cwest fod Mr Macalalad wedi datblygu emboledd yn ei ysgyfaint a bod hynny wedi arwain at drawiad ar y galon yn ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 25 Mai 2020.
Ni chafodd archwiliad post mortem ei gynnal ond mae ymgynghorwyr wedi rhoi achos marwolaeth rhagarweiniol fel thrombo-emboledd ysgyfeiniol o ganlyniad i Covid-19 a diabetes.
Dywedodd y crwner Graeme Hughes mai ei ddyletswydd oedd ymchwilio i farwolaeth Mr Macalalad, a oedd yn hanu'n wreiddiol o Ynysoedd y Philipinau.
Mae cwest llawn wedi'i drefnu ar gyfer 20 Mai 2021.
Roedd Mr Macalalad, sydd yn gadael gwraig Elsie a'i fab Justin, wedi gweithio fel cynorthwyydd mewn theatrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am ddwy flynedd.
Mae'r cyn-saer wedi cael ei ddisgrifio fel "chwaraewr tîm gweithgar, ffyddlon a gŵr bonheddig llwyr."
Disgrifiodd y cyfarwyddwr nyrsio gweithredol, Ruth Walker, ef fel "aelod gwerthfawr o'n tîm" y bydd colled fawr ar ei ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020