Beth yw'r dystiolaeth? Galw am egluro rheol 5 milltir

  • Cyhoeddwyd
Teulu ym mharc Cwm DarrenFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Mae unarddeg Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig wedi galw ar weinidogion Cymru i esbonio'r "sail wyddonol" tu ôl i'r penderfyniad i ganiatáu mwy o weithgarwch yn yr awyr agored - ond yn lleol yn unig.

Ers dydd Llun mae pobl Cymru wedi cael hawl i fynd tu allan a chwrdd ag eraill sydd yn byw mewn tŷ gwahanol. Ond mae'n rhaid iddyn nhw fyw yn lleol i'w gilydd.

Y 'rheol gyffredinol' yw pellter o bum milltir.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai'r rheswm am hyn yw er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledu coronafeirws.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu'r rheol pum milltir yn hallt. Eu dadl nhw yw bod Llywodraeth Cymru yn anwybyddu anghenion y rhai sydd yn byw mewn cymunedau gwledig.

Yn Lloegr mae hawl gan bobl deithio i wneud gweithgarwch yn yr awyr agored a chyfarfod grwpiau o hyd at chwech o bobl.

Ond mae rhai ymgynghorwyr gwyddonol wedi lleisio pryder am ba mor gyflym mae'r cyfyngiadau yn cael eu llacio dros y ffin.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Mae llythyr sydd wedi ei ysgrifennu gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn gofyn am y sail wyddonol ar gyfer y rheol teithio a'r dehongliad ohono, "gan ystyried yn Lloegr does dim cyfyngiad ar ba mor bell gall rhywun deithio."

Dim ond Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, sydd heb arwyddo'r llythyr gyda'r gweddill o ASau Ceidwadol San Steffan wedi gwneud.

Maen nhw'n gofyn os yw, "oedi cyn dod yn rhan o system brofi'r DU ac oedi cyflwyno system brofi, tracio ac olrhain yng Nghymru wedi effeithio ar y penderfyniad i fod yn gyndyn i godi cyfyngiadau."

Cwestiwn arall sydd yn codi yw os oes yna asesiad wedi bod o'r effaith ar iechyd cyhoeddus pobl sydd wedi byw dan "gyfnod clo sydd wedi ei or-ymestyn" yng Nghymru.

Mae'r llythyr hefyd yn gofyn a fu ystyriaeth o iechyd meddwl y boblogaeth ac effaith posib oedi cyn ail gychwyn yr economi.

"Fel cyn wyddonydd rwy'n gwerthfawrogi faint o dystiolaeth sydd ei angen er mwyn gwneud penderfyniadau, yn enwedig ar gyfnod mor dyngedfennol i iechyd pobl yng Nghymru.

"Fodd bynnag pan mae penderfyniadau yng Nghymru yn amlwg yn wahanol iawn i Loegr, dyw hi ond yn deg fod pobl yn fy etholaeth i yn Ynys Môn ac ar draws Cymru yn deall y dystiolaeth sydd gennych wrth wneud eich casgliadau," meddai Ms Crosbie.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.