Galw am waredu Trident i baratoi am bandemig arall

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Glyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Nid rhyfel niwclear yw'r bygythiad mwyaf i'n ffordd o fyw erbyn hyn, medd Rhodri Glyn Thomas

Mae cyn-aelod o Lywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai Llywodraeth y DU gael gwared ar gynllun arfau niwclear Prydain er mwyn gwario mwy ar atal ymosodiadau seibr a pharatoi ar gyfer pandemig arall.

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, mae'n bryd gwaredu Trident, arf niwclear Prydain, ond mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi wfftio'r syniad yn llwyr.

Mae pedair llong danfor yn gwasanaethu fel rhan o gynllun Trident gydag un wastad ar alwad yn y môr i danio arfau pe byddai'r angen yn codi.

Yn 2016, fe bleidleisiodd Senedd y DU o blaid adnewyddu Trident ar gost o £31bn gyda chronfa ariannol wrth gefn o £10bn.

Y gred yw bod hi'n costio o leiaf £2.3bn i gynnal a chadw rhaglen Trident bob blwyddyn. Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud bod Trident yn arf hanfodol er mwyn amddiffyn Prydain a gwledydd NATO.

Mae'r gwariant ar Trident yn cyfateb i 6% o gyllideb amddiffyn Prydain. Fe fydd y llongau tanfor newydd ar gael i wasanaethu o 2028.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r llongau tanfor sy'n cario taflegrau niwcliar

Yn ei gyfweliad cyntaf ers salwch difrifol, mae Mr Thomas, a fu unwaith yn gadeirydd CND Cymru, yn dweud nad rhyfel niwclear bellach yw'r bygythiad mwyaf i'n ffordd o fyw.

"Y gwir yw mai nid dyna'r bygythiad," meddai. "Y bygythiad ydy pandemig, a doedd y wlad yma ddim yn barod i ymateb i'r her honno, ac ymosodiad seibr. Petasai yna ymosodiad seibr, fe fyddai'r holl wasanaethau ni'n cymryd yn ganiataol yn y gymdeithas yn diflannu dros nos.

"Mae pobl amlwg yn y byd milwrol wedi dweud bod Trident yn hen ffasiwn. Ni wedi gweld sefyllfaoedd lle mae banciau a'r gwasanaeth iechyd wedi gweld ymosodiadau seibr ac mae modd amddiffyn rhag hynny ond mae angen buddsoddiad.

"Y flaenoriaeth yw amddiffyn y boblogaeth, ac mae Llywodraeth y DU wedi methu ac mae'n bryd paratoi."

Clymu dadleuon

Yn ôl un arbenigwr ar gysylltiadau rhyngwladol, Dr Bleddyn Bowen o Brifysgol Caerlŷr, mae yna ddadleuon bod ataliaeth - deterrence - wedi llwyddo i rwystro rhyfel niwclear, a camgymeriad yw cysylltu'r ddadl am waredu arfau niwclear gyda'r argyfwng presennol.

"Mae'n drafodaeth bwysig ond mae clymu'r ddadl i argyfwng y dydd, coronafeirws, ddim yn helpu'r ddadl," meddai.

"Dyw cael gwared ar Trident ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth i greisis coronafeirws. Mae penderfynu cynnal a chadw arfau niwclear yn gorfod cael ei drafod dros ddegawdau.

"Mae yna lot o ddadleuon yn trafod y pethau hyn. Mae lot o'r wybodaeth yn dweud bod mwy o arfau niwclear yn beth da achos mae'n atal gwledydd rhag mynd i ryfel yn bwrpasol, a lleihau'r siawns o ryfel gonfensiynol. Mae'r llu niwclear yn bwysig o ran amddiffyn gwledydd y Baltig.

"Mae wastad y siawns fod pethau yn mynd o'i le gydag arfau niwclear wrth gwrs."

Yn ôl Dr Bowen, dyw hi ddim yn bosib darparu arf tebyg i Trident yn rhatach.

Ychwanegodd: "Chi naill ai'n gwneud e'n iawn neu ddim o gwbl. Mae'n rhaid cael pedair llong danfor. Mae pob ffordd arall o wneud e gyda mwy o risg."

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod Llywodraeth y DU "wedi ymrwymo i ddarparu'r adnoddau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r frwydr yn erbyn Covid-19", ond nad oedd hynny'n golygu dargyfeirio adnoddau o feysydd eraill hanfodol.

"Mae arfau niwclear Prydain yn bodoli er mwyn atal bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol ac ein ffordd o fyw. Mi fyddan nhw yn parhau i fodoli, cyn belled â bod eu hangen nhw, yn y byd sydd ohoni."