Gwrthwynebiad yng Nghaerdydd i gynllun amgueddfa filwrol
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i adeiladu amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd wedi cael ei feirniadu gan drigolion lleol.
Mae amgueddfa meddygaeth filwrol wedi ei leoli ym Marics Keogh ger Aldershot yn Surrey ond ers 2016 bu'n fwriad ei hadleoli i Gaerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi awgrymu'r safle yng Nghei Britannia.
Mae'r cynllun, sy'n destun ymgynghoriad ac eto i dderbyn caniatâd cynllunio, wedi cael ei feirniadu gan rai trigolion.
Fe ofynnwyd i'r amgueddfa i wneud sylw.
Yn wreiddiol roedd yr amgueddfa wedi bwriadu symud i safle ar y gyffordd rhwng Heol Hemingway a Rhodfa Lloyd George ond yn Ebrill 2018 fe awgrymodd y cyngor safle arall gyferbyn â'r Eglwys Norwyaidd.
Mae gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai hynny yn dinistrio un o'r ychydig fannau gwyrdd sy'n weddill ym Mae Caerdydd, ac nad yw'n cyd-fynd gyda hanes a diwylliant yr ardal.
Dywedodd Nasir Adam, ymgyrchydd cymunedol a churadur Hanes Pobl Dduon Cymru, ei fod yn esiampl arall o bethau "yn cael eu gorfodi ar y gymuned leol".
"Mae amgueddfa lwyddiannus yn darparu cyswllt clir gyda phrofiadau trigolion lleol," meddai.
"Nid oes gan Gaerdydd draddodiad milwrol ac mae rhaid i ni ofyn hanes a diwylliant pwy sydd yn cael ei adrodd yn yr amgueddfa meddygaeth filwrol?"
'Sarhad'
Un arall sydd wedi bod yn feirniadol o'r cynllun ydy AS Plaid Cymru, Leanne Wood.
"Mae'n sarhad i'r bobl yno bod Cyngor Caerdydd wedi bod yn dyst i Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Tre-biwt yn cau oherwydd diffyg arian yn 2016, ac yna yn barod i groesawu'r amgueddfa meddygaeth filwrol," meddai.
"Ac i ychwanegu sarhad pellach, ry' ni'n clywed y bydd yr amgueddfa wedi ei lleoli ar un o'r meysydd chwarae olaf yn yr ardal.
"Beth sydd ei angen yw amgueddfa sydd yn adlewyrchu hanes amrywiol ac amlddiwylliannol y bobl sydd yn galw Bae Caerdydd yn gartref."
Byddai'r adeilad pum llawr arfaethedig yn gartref i'r casgliad cenedlaethol o wisgoedd milwrol, cyfarpar meddygol, deintyddol a milfeddygol a cherbyd Florence Nightingale o Ryfel y Crimea.
Mae gwefan yr amgueddfa yn ei disgrifio fel "paradeim newydd mewn atyniadau ymwelwyr, yn cynnig profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf yn ogystal â bod yn ganolfan ymchwil, arloesi ac arweinyddiaeth".
Cafodd y safle ei brynu gan Gyngor Caerdydd y 2017 wedi gwrthwynebiad lleol i brosiect Cei Dolffin, fyddai wedi gweld tŵr 24-llawr yn ogystal â siopau, bariau a thai bwyta ar safle'r maes chwarae.
Mae cynlluniau'r amgueddfa yn llawer llai o ran maint, ac yn wahanol i'r Cei Dolffin, byddai'n gadael rhan o'r ardal yn agored i'r cyhoedd.
Ond mae trigolion lleol yn dadlau y byddai'r amgueddfa yn parhau i gael effaith ar eu bywydau.
Caniatâd cynllunio
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud nad oes modd iddynt wneud sylw ar y mater tra bod y cynllun yn disgwyl am ganiatâd cynllunio a'r ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau
Ond yn siarad ar lefel bersonol fe fu arweinydd y cyngor, Huw Thomas, yn amddiffyn y syniad ar Twitter.
Pwysleisiodd bod y cynllun i brynu'r safle i atal datblygiad Cei Dolffin erioed wedi bod yn ddibynnol ar werthu rhan neu'r holl safle yn ddiweddarach i adennill y gost, ac na fyddai cynlluniau'r amgueddfa yn golygu costau i'r cyngor.