Sefydlu sianel ar gyfer cynnyrch Cristnogol Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth i nifer y darllediadau Cristnogol gynyddu ar draws Cymru o Sul i Sul yn y cyfnod clo doedd yna ddim dewis arall, medd cyfarwyddwr gwefan Cristnogaeth.Cymru, ond "sefydlu sianel arbennig ar gyfer yr holl gynnyrch".
"Roedd yna beryg i bob dim fod ar chwâl a neb yn gallu dod o hyd i ddim byd ac fe fyddai hynna'n drueni, gan fod deunydd gwirioneddol dda wedi cael ei gynhyrchu ers i'r cyfyngiadau ddod i rym," meddai'r Parchedig Aled Davies o Chwilog.
Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn gobeithio y "bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio mewn oedfaon wedi i gynulleidfaoedd fynd nôl i'r eglwysi".
"Mae llawer o'r deunydd wedi cymryd amser i'w baratoi - mae'n ddeunydd creadigol a heriol," meddai.
Mae Teledu Cristnogol Cymru yn cynnig pob math o ddeunyddiau - yn eu plith oedfaon, gwersi Ysgol Sul, myfyrdodau, cerddi emynau a chartŵns i blant.
"Mae 'na ryw 450 o raglenni hyd yma, a'r syniad oedd cyflwyno'r cyfan ar sianel sy'n edrych yn debyg i S4C Clic neu iPlayer," meddai Mr Davies.
"Ry'n ni ceisio bod mor eang ag y gallwn gan gynrychioli y gwahanol draddodiadau a'r gwahanol adnoddau yng Nghymru.
"Dwi'n ryw deimlo rywsut fod eglwysi wedi deffro yn sgil lockdown - roedd angen i ni addasu a defnyddio mwy o'r cyfryngau cymdeithasol beth bynnag ond nawr ry'n wedi cael ein gorfodi i wneud hynny sy'n beth da."
Denu cynulleidfa newydd
Ychwanegodd Mr Davies fod arddull pawb o gyflwyno eu neges yn amrywiol ac wedi datblygu yn ystod y cyfnod clo.
"Mae rhai wedi gwneud yr union beth a fyddent yn ei wneud yn eu heglwysi ond eraill yn eistedd ar soffa ac yn fwy hamddenol wrth draethu," meddai.
"Mae rhai wedi torri'r bregeth i fyny ac yn gofyn ambell gwestiwn fan hyn a fan draw - mae'n ddiddorol iawn.
"Cyfarfod Zoom dwi wedi'i gynnal fy hun - roeddwn i'n teimlo bod dal angen rhywbeth byw, digwyddiad sy'n dod â'r gynulleidfa at ei gilydd a drwy Zoom dwi'n gallu gweld pawb - a gweld eu hymateb ac maent i weld yn ffafriol.
"Ydy, mae'r cyfnod clo wedi bod yn heriol i ni fel eglwys. 'Dan ni wedi gorfod addasu ac roedden angen 'neud hynny beth bynnag.
"Dwi'n gobeithio bydd y deunyddiau sydd ar Teledu Cristnogol Cymru o gymorth nawr ac yn y dyfodol i bobl ar draws Cymru ac y byddant hefyd yn denu cynulleidfa newydd."
Bydd mwy am y sianel i'w glywed ar raglen Bwrw Golwg, ddydd Sul am 12:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020