Galw am bont newydd rhwng Ceredigion a Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pont Llechryd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont Llechryd wedi bod ynghau ers mis Chwefror ar ôl difrod Storm Dennis

Mae angen pont newydd i groesi o Sir Benfro i Geredigion, yn ôl un o gynghorwyr Ceredigion.

Yn ôl y Cynghorydd Clive Davies byddai'n beth da medru "ymddeol" Pont Llechryd, sy'n dyddio 'nôl i'r 17eg ganrif.

Mae'r bont wedi bod ynghau ers mis Chwefror ar ôl difrod yn ystod Storm Dennis.

Bu'n rhaid iddi gau hefyd yn 2018 ar ôl difrod Storm Callum.

Taith 'saith neu wyth milltir' i'r ochr draw

Mae Geraint Morris o fferm Castell Malgwyn yn gorfod teithio trwy Benbryn ac Aberteifi nawr er mwyn cyrraedd ei dir ar yr ochr arall i'r afon yng Ngheredigion.

"Mae'n meddwl bod mynd i'r tir sydd ochr draw yn rhyw saith neu wyth milltir," meddai.

"Fel arfer mi fyddai'r daith yn bum munud. Dwi'n gallu gweld y tir o'r clos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Clive Davies yn eisiau cadw'r hen bont at ddefnydd seiclwyr a cherddwyr yn unig

Dywedodd Amanda Edwards, aelod o Gyngor Cymuned Llangoedmor: "Mae e mor annheg ar bobl sydd angen y bont bob dydd - mae'n galed ofnadwy arnyn nhw."

Yn ôl Mr Davies, mae'r bont yn cael ei difrodi yn fwy aml yn sgil newid hinsawdd ac mae angen ystyried ateb hir dymor.

"Dyna'r un broblem gyda'r bont 'ma - yn hanesyddol mae'r llifogydd yn ei dal hi ac mae hi'n cau.

"Mae hi'n bont isel ac yn hen. Licen i weld y bont yn 'ymddeol' ac ein bod ni'n cael beiciau a cherddwyr arni, a falle cael pont newydd yn nes lan.

"Mae lefel y dŵr yn uchel ta beth nawr oherwydd mae'r tide yn dod lan i'r bont ac mae'n codi yn fwy aml.

"Mae angen i ni baratoi ar gyfer y tymor hir a falle edrych ar bont newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amanda Edwards bod y sefyllfa yn "annheg ar bobl sydd angen y bont bob dydd"

Yn ôl Cyngor Ceredigion bydd y gwaith cynnal a chadw ar y bont yn costio tua £100,000.

"Amcangyfrifwyd bod y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith brys sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd tua £100,000," meddai llefarydd.

"Bydd y gwaith hwn yn mynd i'r afael â'r difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau llifogydd diweddar.

"Ar yr un pryd, bydd y cyngor hefyd yn manteisio ar y cyfle i feintioli ac asesu ymhellach nifer o ddiffygion eraill a nodwyd yn dilyn archwiliadau tanddwr a bydd unrhyw waith ychwanegol yn cael ei fesur/gostio wedyn."