Galw i ailagor marchnad dai Cymru'n 'bwyllog'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i'r farchnad dai gael ei "hailagor yn bwyllog", 11 wythnos ers i'r argyfwng coronafeirws ddod â'r sector i stop.
Mae arwerthwyr tai a chyfreithwyr eisiau i briswyr gael ymweld ag eiddo gwag er mwyn cwblhau'r gwerthiannau ar eu hanner - cam a fyddai'n aildanio'r farchnad dai.
Yn ôl y wefan gwerthu eiddo Rightmove mae 16,485 o dai ar werth yng Nghymru, a thros hanner wedi'u gwerthu'n amodol ar gytundeb.
Dywed Llywodraeth Cymru mai dim ond pan fo symud tŷ'n hanfodol y dylid prisio eiddo.
Mae Ross Johnson yn aros ers dau fis i brisio eiddo masnachol yn Nhon-teg, ger Pontypridd ar gyfer morgais, ac mae'n amcangyfrif y gallai'r oedi gostio cymaint â £1,500 yn ychwanegol.
Prynwyd cyn-siop farbwr gyda benthyciad dros dro gyda'r bwriad o gael morgais ar ôl cwblhau gwelliannau ond daeth cyfyngiadau i rym cyn i brisiwr allu ymweld â'r eiddo.
"Mae mor rhwystredig ac yn gryn straen oherwydd mae'n costio llawer o arian i mi," meddai.
"Rwy'n deall nad ydy'r llywodraeth eisiau lledaenu coronafeirws, ond does dim risg uwch i brisiwr ymweld ag eiddo gwag mewn offer diogelwch llawn na mynd i ganolfan arddio neu siop llawn pobl."
Mae rhai benthycwyr yn cymeradwyo morgeisi "â llai o risg" gan ddefnyddio algorithm, data lleol a phrisiau hanesyddol i brisio eiddo - proses nad sydd angen ymweliad mewn person.
Ond mae rhai'n rhybuddio fod prisio rhithwir yn gallu arwain at brisiadau is "gan fod y risg i'r benthycwyr yn uwch yn sgil mwy o ansicrwydd".
Mae 14% yn llai o eiddo ar werth yng Nghymru eleni o gymharu â 2019, yn ôl Rightmove, ac mae tai ar y farchnad am bythefnos a hanner yn hirach na'r 10 wythnos arferol, ar gyfartaledd.
O'r 16,485 o dai yng Nghymru sydd ar restr gyfredol y wefan, mae 9,424 wedi'i gwerthu, yn amodol at gytundeb.
Bydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 18 Mehefin. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am amserlen i'r sector gwerthu tai, ac i ystyried gadael i arwerthwyr ymweld ag eiddo fel eu bod yn barod i fynd ar y farchnad pan fydd yn amser ailddechrau prynu a gwerthu.
Byddai hynny'n ddefnyddiol, medd Heidi Davis o arwerthwyr Newland Rennie yng Nghas-gwent:
"Pan fydde'r farchnad yn ailagor, bydde'r holl fanylion a lluniau gyda ni'n barod i brynwyr posib eu gweld fel bod arwerthwyr tai ddim ar y droed ôl o'r diwrnod cyntaf," dywedodd.
"Byddai hynny, a gadael i briswyr fynd i dai tra bo'r perchnogion yn gadael am gyfnod byr, yn caniatáu i'r farchnad yng Nghymru ailagor yn bwyllog."
Ychwanegodd: "Bydden ni'n cadw rheolau pellter cymdeithasol, gwisgo PPE a sicrhau fod neb â symptomau Covid-19.
Dywed Llywodraeth Cymru fod pobl yn cael symud tŷ pan "nad oes modd gohirio".
Ychwanegodd llefarydd: "Pan fo angen prisiad i hwyluso symud tŷ hanfodol gall hynny ddigwydd cyn belled â bod mesurau pellter cymdeithasol yn cael eu cynnal, a bod neb yn yr aelwyd yn y categori risg uchel ac yn gwarchod eu hunain neu â symptomau, yn unol â'r canllawiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020