'Coronafeirws yn newid y dull o brynu a gwerthuso tai'

  • Cyhoeddwyd
House for saleFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae sgil effeithiau haint coronafeirws wedi cael cryn effaith ar werthu a rhentu tai, yn ôl perchennog cwmni Maison yng Nghaerdydd, ond eto "mae'r cyfan wedi gorfodi y diwydiant i symud bum mlynedd ymlaen yn y byd digidol".

Ddydd Llun bydd pob aelod o staff y cwmni ym Mhontcanna yn ôl wrth eu gwaith yn llawn amser wrth i'r "diwydiant fagu ychydig mwy o hyder," medd y cyfarwyddwr gweithredol Thomas Williams.

"Rhwng hyn, trafodaethau Brexit a llifogydd ddechrau'r flwyddyn mae gwerthu tai wedi bod yn lled anodd ond dwi'n gweld llygedyn o obaith erbyn hyn," ychwanegodd Mr Williams.

"Fyddwn i'n dweud mai traean o'r diddordeb arferol sydd mewn eiddo ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Thomas Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas Williams, pennaeth cwmni Maison, yn hyderus y bydd pobl yn prynu tai yn fuan

"Mae wedi bod yn anodd iawn i'r rhan fwyaf o bobl symud tŷ - yn wir dim ond pobl oedd yn medru symud eu hunain a ddim yn ddibynnol ar gwmnïau cludo celfi sydd wedi bod yn gallu gwneud hynny.

"Mae syrfeiwr ond wedi gallu mynd mewn i eiddo gwag i wneud archwiliadau."

Profiad Dafydd a Naomi

Roedd Dafydd Tomos a'i bartner Naomi Edwards a'u merch fach wedi gobeithio symud o Ffynnon Taf i Efail Isaf yn ystod y gwanwyn ond oherwydd y cyfyngiadau 'dyw hynny ddim wedi bod yn bosib.

"Yn amlwg, bywydau pobl sydd wedi bod bwysicaf," meddai Mr Tomos wrth siarad â Cymru Fyw, "ond mae'r holl broses yn rhwystredig iawn.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd, Naomi a Mabli wedi gobeithio symud i gartref newydd

"Dim ond swm fach o arian mae prynwr ein cartref ni angen ei fenthyg ond mae'r banc yn mynnu bod arolwg yn cael ei wneud cyn rhoi benthyg yr arian iddi - ac ar hyn o bryd dyw cynnal arolwg ddim yn bosib.

"Mae rhywun yn byw yn y tŷ ry'n ni yn ei brynu a mae hi angen ffindio lle arall i fyw - ond ar hyn o bryd dyw hi ddim yn gallu mynd i chwilio am le.

"Ydi mae'r cyfan yn rhwystredig iawn - fel athrawon mae Naomi a fi adre lot ar hyn o bryd, a mi fyddai wedi bod yn gyfle da i setlo yn ein cartref newydd.

"Wrth i arwerthwyr ddechrau ar eu gwaith yn Lloegr, ry'n yn gobeithio y byddwn yn gallu symud cyn hir, ond yn derbyn wrth gwrs mai lles y cyhoedd sydd bwysicaf wrth ddod i unrhyw benderfyniad."

"Yn amlwg fyddwn ni ddim yn gallu agor ein drysau i'r cyhoedd ddydd Llun ond mae'r wythnosau diwethaf wedi dysgu ni sut i symud ymlaen o ran technoleg ac i fod yn effeithlon," ychwanega Thomas Williams.

"Bellach mae darpar brynwyr yn gallu gweld tai o bell - 'dan ni wedi bod yn gwneud fideos o dai ac hefyd ry'n wedi bod yn gallu gwerthuso tai wrth i ddarpar werthwyr ffilmio eu tai eu hunain.

"Hefyd mae mwy o bobl yn llofnodi'n ddigidol."

'Bydd pobl isio symud'

Mae Thomas Williams yn canu clodydd llywodraethau Cymru a San Steffan wrth iddyn nhw gamu i'r adwy i sicrhau dyfodol busnesau.

"Heblaw am grantiau a benthyciadau mi fyddai llawer busnes wedi gweld yr hwch yn mynd drwy'r siop.

"Yn amlwg mae o hyd yn anodd ar lawer - dyw pob tenant ddim yn gallu talu ond yn gyffredinol, ry'n ni fel cwmni wedi gweld landlordiaid yn delio gyda hynny yn wych.

"Dwi'n meddwl, ar ôl y cyfnod yma, bydd mwy o bobl eisiau symud - o fod adre gyhyd dwi'n siŵr fod rhai wedi cael amser i feddwl ei bod hi'n bryd cael newid.

"Ar ôl hyn i gyd dwi'n rhagweld cymdeithas egnïol - fydd pobl isio mynd allan eto ac yn teimlo awydd gwirioneddol i fyw.

"Byddan nhw hefyd isio newid petha' - a rhan o hynny, o bosib, fydd symud cartref."