Gobeithio am 'newyddion positif' i dwristiaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
LlandudnoFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn gobeithio "gallu dweud rhywbeth positif" wrth y diwydiant twristiaeth pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio ym mis Gorffennaf.

Awgrymodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates y gallai'r cyhoeddiad hwnnw ddod mor fuan â 9 Gorffennaf.

Ar hyn o bryd mae pobl yng Nghymru'n cael cyfarfod pobl o gartrefi eraill y tu allan, ond mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn dweud na ddylai pobl deithio mwy na phum milltir fel rheol.

Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Mr Skates y byddai'r mater yn cael ei ystyried wrth iddyn nhw "edrych i ailagor" twristiaeth.

Daw hynny wrth i gorff sy'n cynrychioli'r diwydiant yn y gogledd rybuddio y gallen nhw wynebu "problemau mawr" os nad oes modd masnachu ym misoedd Gorffennaf ac Awst.

Llacio'r rheolau teithio

Mewn ymateb i gwestiynau gan newyddiadurwyr, dywedodd y gweinidog y byddai'r rheol pum milltir yn cael ei hadolygu yn yr wythnosau nesaf.

"Ar y pwynt yna rydyn ni'n gobeithio gallu gwneud hynny mewn ffordd fydd ddim yn peryglu diogelwch y cyhoedd," meddai.

Ond dywedodd Mr Skates y byddai'n rhaid bod yn "hyderus na fyddwn ni'n difetha pethau i'r diwydiant ymwelwyr yn 2021 wrth ailagor yn rhy gynnar".

Ychwanegodd Mr Skates y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i adolygu'r sefyllfa bob tair wythnos, ond mai "rhywbeth yn ymwneud â rhannau eraill o'r economi" oedd yn debygol o fynd â'r sylw yn y cyhoeddiad wythnos nesaf.

"Ar ôl hynny, wrth gwrs, y dyddiad nesaf wedyn fydd 9 Gorffennaf," meddai.

Mynnodd Mr Skates fodd bynnag nad oedd Cymru'n gwneud unrhyw beth oedd yn "wahanol iawn o gwbl" i weddill y DUo ran twristiaeth.

"Yn Yr Alban dydyn ni ddim yn gwybod eto pryd allai'r sector twristiaeth a hamdden ailagor, ond mewn rhannau eraill o'r DU mae'r llywodraethau wedi dweud mai 4 Gorffennaf yw'r cynharaf ar gyfer rhai rhannau o'r sector," ychwanegodd.

Ym mis Mai fe rybuddiodd Mr Skates nad oedd disgwyl i'r diwydiant godi ar ei thraed yn iawn unwaith eto nes 2021.

Dywedodd cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones fod busnesau'r ardal yn "rhwystredig".

"Mae angen i ni gael Gorffennaf ac Awst, neu bydd problemau mawr o fewn y diwydiant," meddai.

"Mae angen cynllunio nawr ar gyfer faint bynnag o dymor gawn ni. Allwn ni ddim gadael i Loegr galifantio ar y blaen ac ailagor i ymwelwyr tra bod Cymru'n dweud 'rydyn ni ar gau, ewch i aros rhywle arall'."

Galw am lacio fel Lloegr

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies fod angen i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford gynnig gobaith a sicrwydd i'r diwydiant twristiaeth.

Roedd llawer o gwmnïau yng Nghymru yn dioddef, meddai, wrth weld rhai mewn ardaloedd eraill y DU yn addasu eu busnesau a chroesawu ymwelwyr unwaith eto.

"Mae llawer o gwmnïau yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl, gyda dim gobaith ar gyfer eu busnesau yn y dyfodol," meddai.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu Lloegr drwy ganiatáu i bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain i aros y nos mewn un cartref arall.

Bydd y newid hwnnw yn dod i rym yn Lloegr o ddydd Sadwrn, gyda'r Prif Weinidog Boris Johnson yn dweud mai'r bwriad yw taclo unigrwydd.