Angen ymestyn cynllun ffyrlo 'i achub twristiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Bike Park WalesFfynhonnell y llun, Bike Park Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cyfarwyddwr Bike Park Wales fod y pandemig wedi bod yn ergyd ddifrifol i'w gwmni

Mae angen ymestyn y cynllun saib o'r gwaith tu hwnt i fis Hydref er mwyn atal busnesau twristiaeth antur rhag "diflannu o'r map" medd aelod seneddol Ceidwadol yn San Steffan.

Galwodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ar Lywodraeth y DU i gynnig "cefnogaeth ychwanegol" i'r sector.

Mae dros 9% o weithlu Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth.

Dywed y Trysorlys ei fod wedi ymestyn y cynllun tan yr hydref ac fe fyddai'n parhau i "gefnogi busnesau".

Cynllun saib o'r gwaith

Mae miliwn o gyflogwyr wedi defnyddio cynllun absenoldeb ffyrlo Llywodraeth y DU ar gyfer eu gweithwyr, gan dalu 80% o'u cyflogau i fyny at £2,500 y mis.

Cafodd y cynllun ei ymestyn hyd at yr hydref gan y Trysorlys, ond bydd cyflogwyr yn dechrau cyfrannu mwy tuag at gyflogau eu gweithwyr o fis Awst ymlaen.

Ond mae rhai cwmnïau twristiaeth antur yng Nghymru wedi galw am fwy o gefnogaeth, gan ddadlau y bydd eu busnesau'n wynebu her anferth i wneud elw o achos rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Cwmni beicio mynydd

Dywed Martin Astley, cyfarwyddwr Bike Park Wales ym Merthyr Tudful fod y cyfnod clo wedi bod yn "ergyd ddifrifol" i'w gwmni.

"Mae wedi taro ar amser gwael iawn hefyd - roedd llawer o ddarparwyr awyr agored yng Nghymru wedi cael gaeaf caled iawn, roedd y tywydd yn erchyll, fe achosodd Storm Dennis gwerth miloedd o ddifrod i'n safle ni, roeddem yn dal yng nghanol ceisio trwsio hynny pan ddaeth y cyfnod clo," meddai.

Esboniodd fod rhan o weithgaredd ei gwmni yn golygu hebrwng cwsmeriaid i ben mynydd mewn bysiau mini, sef peth "anodd iawn" i'w gyflawni gyda rheolau ymbellhau mewn grym.

"Mae ein busnesau'n gwbl farw yn ariannol o dan reolau ymbellhau. Ni allwn hyd yn oed ddod yn agos at wneud arian heb sôn am wneud elw," meddai.

Dywedodd Mr Astley fod angen i'r cynllun ffyrlo fod yn fwy penodol er mwyn bod o gymorth i fusnesau fel yr un y mae e'n ei redeg er mwyn osgoi diswyddiadau.

"Yr hyn sydd yn fy mhryderu yw fy mod yn eithaf ffyddiog y bydd y cynllun ffyrlo'n dod i ben cyn y bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu diddymu, sydd yn ein gosod mewn sefyllfa anodd dros ben - ar y gorau gostyngiad o 50% yn ein refeniw, a dim ond i un cyfeiriad y bydd hyn yn arwain yn anffodus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Jet Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jet Moore yn berchen ar gwmni sydd yn cynnig teithiau kayak yn y gorllewin

Mae Jet Moore yn berchen ar gwmni Adventure Beyond. Fel arfer mae'r cwmni'n cynnig teithiau caiac yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd y byddai'r tywydd poeth diweddar wedi golygu tymor prysur iawn i'r diwydiant, ond fod yr incwm yma bellach wedi ei golli.

"I'r sector twristiaeth antur, mae fel tri thymor y gaeaf ar ôl ei gilydd," meddai.

"Rydym wedi cael y gaeaf a nawr mae gennym yr haf heb unrhyw waith sydd yn debyg i'r gaeaf, ac rydym yn mynd yn syth yn ôl i'r gaeaf erbyn yr amser y bydd pethau'n ailddechrau eto."

Mae'n credu fod angen pecynnau wedi eu teilwra'n benodol er mwyn helpu busnesau i oroesi dros y gaeaf, wedi i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.

"Mae'n anodd iawn ond os ydyn nhw am i'r diwydiant twristiaeth oroesi rhaid cael rhywbeth dros y gaeaf - ond hefyd i alluogi pobl i barhau i weithio tra'n derbyn y gefnogaeth yna."

Dywed Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli Penfro, Mr Crabb, y byddai busnesau tebyg yn ei etholaeth yn wynebu diswyddiadau heb fwy o gefnogaeth.

"Maen nhw i gyd yn dweud wrtha i, gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn grym, y bydd yn anodd iawn i redeg busnesau hyfyw," meddai.

"Mae yna angen rwy'n credu am becyn ariannol parhaus i'r sector yma ag i dwristiaeth ar draws Cymru yn gyffredinol.

"Twristiaeth yw'r diwydiant sydd yn cael ei effeithio fwyaf gan coronafeirws yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Crabb yn dweud fod nifer o gwmnïau twristiaeth antur yn dioddef yn ei etholaeth o achos y sefyllfa

Mae Mr Crabb yn gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Cymreig, sydd wedi dechrau ymchwiliad ym mis Ebrill i edrych ar effaith y pandemig ar yr economi yng Nghymru.

"Fy mhryder i yw os na fydd y llywodraeth yn darparu rhyw fath o gymorth ag ymestyn y cynllun ffyrlo mewn dull creadigol yna mae'n anorfod y bydd llawer o fusnesau twristiaeth yn diswyddo staff ac fe fydd llawer o'r busnesau hynny'n diflannu oddi ar y map yng Nghymru yn gyfan gwbl," meddai.

Dywed y Trysorlys fod y cynllun saib o'r gwaith "wedi diogelu 8.7 miliwn o swyddi ar draws y DU".

"Rydym wedi ymestyn y cynllun tan Hydref - gan olygu y bydd ar agor am wyth mis ac yn parhau i gefnogi busnesau wrth i'r economi ailagor gyda phobl yn dychwelyd i'r gwaith," meddai llefarydd.