'Brexit a Covid-19 yn gyfuniad hunllefus' medd gweinidog
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Lesley Griffiths nad yw'n credu bod hi'n bosib i'r DU a'r UE ddod i gytundeb cyn 31 Rhagfyr
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r cyfuniad o drafodaethau Brexit a'r argyfwng Covid-19 fel "hunllef" a "dwy storm berffaith".
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, nad yw'n credu y bydd yn bosib cwblhau trafodaethau masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd cyn 31 Rhagfyr.
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb ddiwedd eleni oni bai bod modd i'r ddwy ochr ddod i gytundeb. Mynnu taw dyna'r nod o hyd wna llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
Ddydd Iau fe rybuddiodd arweinwyr busnes y byddai Brexit digytundeb yn drychinebus i gwmnïau Prydeinig.
Yn ôl Y Fonesig Carolyn Fairbairn - cyfarwyddwr cyffredinol Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI - mae'r pandemig wedi disbyddu'r holl drefniadau i liniaru cost ychwanegol a gwaith cynllunio ar gyfer gadael yr undeb dollau a'r farchnad sengl heb gytundeb.
"Dydw i ddim yn credu bod o'n bosib"
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Senedd Cymru, dywedodd Ms Griffiths: "Mae'n ddwy storm berffaith... mae'n destun pryder eithriadol fod Llywodraeth y DU'n dal i fynnu y byddwn ni'n gadael [yr UE].
"Bydd y cyfnod pontio'n dod i ben ar 31 Rhagfyr. Yn amlwg, lleihau mae'r cyfle i sicrhau cytundeb nes ei fod yn fach iawn erbyn hyn.
"Yn bersonol, dydw i ddim yn credu bod o'n bosib. Dydw i ddim yn meddwl fod Llywodraeth Cymru'n credu fod o'n bosib."


Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi ceisio sicrhau estyniad i'r cyfnod pontio, yn ôl Ms Griffiths.
"Mae hi nawr yn ganol Mehefin - erbyn diwedd Gorffennaf dylai'r trafodaethau masnach mawr fod wedi dod i ben," meddai. "Mae'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn cynyddu.
"Yr un swyddogion sydd yn delio gyda newidiadau'r UE, ac rydym wedi gorfod delio gyda Covid-19. Felly dydw i ddim yn meddwl fod hunllef yn air rhy gryf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020