Gething: Beirniadu sylwadau 'sarhaus' Johnson a Price

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething ei sylwadau ar raglen Question Time y BBC

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhuddo prif weinidog y DU ac arweinydd Plaid Cymru o wneud sylwadau "sarhaus" am bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Mr Gething fod Boris Johnson wedi gwneud sylwadau "hynod sarhaus" mewn erthygl bapur newydd yn 2002, ac fe feirniadodd Adam Price o Blaid Cymru am gymharu hanes Cymru â gwladychiaeth Affrica.

Ar raglen Question Time nos Iau, dywedodd gweinidog cabinet y Ceidwadwyr, Robert Buckland, ei fod e yn barnu'r Prif Weinidog ar ei weithredoedd fel gwleidydd etholedig, nid ar rywbeth y gallai fod wedi'i ysgrifennu 15 mlynedd yn ôl.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, fod Mr Gething yn ymddwyn yn "bitw".

Roedden nhw'n ymateb i sylwadau Mr Gething pan ddywedodd: "Mae'n fater go iawn. I bobl sy'n edrych fel fi, roedd yn brif weinidog a oedd yn defnyddio iaith fel 'gwen melon dwr' a 'piccaninnies'.

"Yn union fel rhywun sy'n cymharu profiad Cymru â gwladychiaeth a'r profiad Affricanaidd-Americanaidd, mae'n bwysig ac mae'n sarhaus".

Ffynhonnell y llun, Reuters

Yn 2002, wrth weithio fel newyddiadurwr yn y Daily Telegraph, ysgrifennodd Boris Johnson: "Mae'n rhyddhad y mae'n rhaid iddo fod (Tony) Blair i ddod allan o Loegr. Dywedir bod y Frenhines wedi dod i garu'r Gymanwlad, yn rhannol oherwydd mae'n cyflenwi torfeydd rheolaidd o biccaninnïau yn chwifio baneri ac yn bloeddio iddi ... "

Yn yr erthygl, ychwanegodd: "Maen nhw'n dweud ei fod yn fuan yn mynd i'r Congo. Yn ddiau, bydd yr AK47s yn cwympo'n dawel, a bydd y pangas yn rhoi'r gorau i'w arfer o hacio cnawd dynol, a bydd rhyfelwyr y llwyth i gyd yn torri allan mewn gwenau watermelon i weld pennaeth y llwyth yn cyrraedd yn ei aderyn mawr gwyn Prydeinig sy'n cael ei ariannu gan y trethdalwr."

Ymddiheurodd Mr Johnson am y sylwadau yn 2008, yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i fod yn faer Llundain.

Beirniadaeth 'bitw'

Yng nghynhadledd Plaid Cymru ym mis Hydref 2019, dywedodd Adam Price fod Cymru'n ddyledus i "wneud yn iawn am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad, yn gyfoethog yn ei hadnoddau, etifeddiaeth yn chwerw o dlodi, salwch, bywydau wedi eu difetha a breuddwydion wedi torri".

Cyfaddefodd Plaid Cymru yn ddiweddarach fod Mr Price yn "anghywir" i alw am wneud yn iawn i Gymru heb gyfeirio at rôl y wlad yn yr ymerodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod Cymru'n haeddu "iawndal am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad o adnoddau cyfoethog yn dlawd a sâl".

Wrth ymateb i feirniadaeth Mr Gething, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ar yr un rhaglen: "Pan rydyn ni'n edrych ar y materion mawr go iawn yn y DU, un o'r pethau 'pitw' rydyn ni'n ei wneud yw son am bersonoliaethau."

Dywedodd fod Mr Price wedi galw am "ymchwiliad annibynnol i hiliaeth strwythurol yng Nghymru" ddydd Mercher, a'i fod e yn arwain galwadau am amgueddfa BAME Cymru.

Wrth ymateb i feirniadaeth Mr Gething o Boris Johnson, dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder llywodraeth y DU, Robert Buckland: "Byddwn i'n dweud bod newyddiadurwyr yn ysgrifennu llawer o bethau, yn ysgrifennu llawer o bethau polemic, a llawer o bethau y byddent yn ddiweddarach yn difaru neu'n dewis difaru yn ddiweddarach."

Ychwanegodd yr AS Ceidwadol: "Ni allaf siarad drosto am rywbeth a allai fod wedi cael ei ysgrifennu 15 mlynedd yn ôl - mae'n rhaid i mi farnu person ar ei weithredoedd fel gwleidydd etholedig."

Dywedodd Mr Buckland fod y Prif Weinidog "yn derbyn heriau ac eisiau cyflawni rhywbeth yn eu cylch".