Brexit: Llywodraeth y DU yn 'anwybyddu' Cymru a'r Alban
- Cyhoeddwyd
Ni fydd llywodraethau Cymru na'r Alban yn cymryd rhan mewn cyfarfod gyda Llywodraeth y DU gan fod yn cael eu "hanwybyddu" ar Brexit cyn dechrau'r trafodaethau.
Mae cyfarfodydd hyd yma wedi bod yn gyfle i Lywodraeth y DU "roi gwybod am eu barn nhw, nid gwrando ac ymateb i'n barn ni", yn ôl gweinidogion Cymru a'r Alban.
Roedd disgwyl i'r ddwy lywodraeth ddatganoledig godi pryderon a gofyn am ymestyn cyfnod trosglwyddo Brexit heibio 31 Rhagfyr mewn cyfarfod nos Wener.
Ond mewn datganiad ar Twitter cyn y cyfarfod, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, Michael Gove, ddweud bod Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau i'r Undeb Ewropeaidd (UE) na fyddai'n ymestyn y cyfnod.
Daw ar ôl i brif weinidogion Cymru a'r Alban ysgrifennu at Boris Johnson yn gofyn am ymestyn y cyfnod trosglwyddo yn sgil pandemig coronafeirws.
Mae'r UE yn agored i'r syniad o ymestyn, ac yn dymuno derbyn unrhyw gais i wneud hynny erbyn 1 Gorffennaf.
Ond ni fydd y cais yn cael ei wneud, yn ôl Mr Gove.
"Ar 1 Ionawr 2021 byddwn yn cymryd rheolaeth yn ôl ac adennill annibyniaeth wleidyddol ac economaidd," meddai ar Twitter.
Mae gweinidogion Cymru a'r Alban wedi dweud nad oes modd derbyn "ffordd o weithio ble mae barn llywodraethau datganoledig yn syml yn cael ei anwybyddu cyn cael cyfle i drafod."
Ychwanegodd: "Byddwn yn ysgrifennu at Mr Gove yn gofyn am ailddechrau'r trafodaethau yn llwyr, ac rydym am i 27 yr UE wybod bod safbwynt Llywodraeth y DU ar y cyfnod trosglwyddo yn groes i farn ein llywodraethau ni ac, yn ein barn ni, yn achosi perygl o wneud difrod difrifol i bobl ein gwledydd.
"Mae gwrthod gofyn am estyniad ar hyn o bryd yn benderfyniad arbennig o ddi-hid o ystyried y niwed i'r economi a swyddi o'r coronafeirws."
Ymateb Llywodraeth y DU
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet fod Llywodraeth y DU wedi'i hethol "gyda maniffesto clir i beidio ymestyn y cyfnod pontio", a bod yr ymroddiad hynny "wedi'i gymeradwyo gan y Senedd a'i ail-gadarnhau gan weinidogion mewn trafodaethau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig".
Byddai estyn y cyfnod pontio, meddai "ond yn gwaethygu ansicrwydd i fusnesau a dinasyddion" a chlymu'r DU i ddeddfwriaeth yr UE yn y dyfodol "heb gyfrannu at ei llunio i sicrhau ei bod er lles pobl Cymru, Yr Alban a gweddill y DU".
"Byddai hefyd yn golygu taliadau mawr i'r UE, a byddai'r DU yn dal yn rhwym i reolau... fyddai'n golygu ein bod angen cymeradwyaeth yr UE i fesurau'n cefnogi diwydiannau Cymru a'r Alban.
"Rhaid canolbwyntio nawr ar wneud y mwyaf o'r cyfleoedd byd-eang yn sgil gadael yr UE."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020