Pwy sy'n yr XI delfrydol yn hanes pêl-droed Cymru?

  • Cyhoeddwyd
cymru XIFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 mae trafod chwaraeon wedi bod yn un ffordd o basio'r amser.

Un ddadl ymysg cefnogwyr Cymru yw beth fyddai'r XI gorau i'n tîm cenedlaethol, o ystyried pob chwaraewr sydd wedi gwisgo'r crys coch.

Ond beth mae'r cyn-chwaraewyr eu hunain yn feddwl? Mae rhai o'r enwogion sydd wedi cynrychioli Cymru wedi rhoi eu barn i Cymru Fyw:

John Hartson

Meddai John Hartson: "Dywedodd rhywun doeth wrtha' i bod rhaid cael eich XI gorau ar y cae, ac yna poeni am eich system o chwarae."

Eilyddion: Aaron Ramsey, Robbie James, Peter Nicholas, Dean Saunders, Mark Hughes

Neville Southall

Mae digon o brofiad yn nhîm Neville Southall, gyda game changers ar y fainc i ddod 'mlaen os oedd angen gôl neu ddwy.

Eilyddion: Tony Roberts, Mike England, Alan Curtis, Ryan Giggs, Gareth Bale

Kevin Ratcliffe

Cyflymder sy'n allweddol i dîm cyn-gapten Everton, Kevin Ratcliffe, gyda Ian Rush, Ryan Giggs a Gareth Bale yn arwain yr ymosod.

Eilyddion: Danny Gabbidon, Robbie James, Mickey Thomas, Dean Saunders, Mark Hughes

Iwan Roberts

Mae cyn-ymosodwr Norwich, Iwan Roberts, yn mynd am dîm hynod brofiadol - gyda chyfanswm o 730 o gapiau rhwng yr XI sy'n dechrau.

Eilyddion: Ashley Williams, Aaron Ramsey, Terry Yorath, Dean Saunders, Craig Bellamy

Nathan Blake

Mae Nathan Blake yn gwneud penderfyniad dewr o roi Gareth Bale nôl yng nghefnwr chwith fel ei ddyddiau cynnar gyda Tottenham Hotspur.

Eilyddion: Gary Speed, Aaron Ramsey, Dean Saunders, Ivor Allchurch, John Toshack

Owain Tudur Jones

Tri yn y cefn i Owain Tudur Jones, gyda naws hynod ymosodol a chyflym drwy'r tîm.

Eilyddion: Danny Gabbidon, Aaron Ramsey, Alan Curtis, Dean Saunders, John Toshack

Ian Walsh

Un o fawrion Abertawe, Ivor Allchurch, sy'n arwain yr ymosod gyda Ian Rush yn nhîm Ian Walsh. Hefyd yng nghanol cae mae'r chwaraewr amryddawn o Orseinon, Robbie James.

Eilyddion: Dai Davies, Brian Flynn, Cliff Jones, Alan Curtis, John Toshack

Hefyd o ddiddordeb: