Galw am eglurder am beth i'w ddisgwyl mewn prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Erin Williams yn un o'r darpar fyfyrwyr sy'n "sownd mewn limbo"

Mae rhai myfyrwyr yn dweud bod angen i brifysgolion gyfathrebu'n onest ynglŷn ag effaith coronafeirws ar fywyd coleg.

Yn ôl NUS Cymru mae rhai prifysgolion wedi ceisio codi gobeithion myfyrwyr am fynd "nôl i normal" yn gynt nag a fydd yn bosib.

Mae Undeb Prifysgolion Cymru'n dweud y bydd amgylchiadau yn wahanol, ond bod prifysgolion wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y profiad yr un mor atyniadol ac o'r un ansawdd uchel.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu ffioedd dysgu llawn, hyd yn oed os bydd peth o'r dysgu arlein.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mater i brifysgolion yw pennu ffioedd gan eu bod yn sefydliadau annibynnol.

"Swn i'n hoffi meddwl bod myfyrwyr yn medru mwynhau prifysgol, ond dwi'n meddwl bydd o bosib yn wahanol i beth oeddan nhw'n gobeithio'i gael," medd Lleucu Myrddin, o Undeb NUS Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Erin Williams, 18, o Gricieth, a'i golygon ar y gorwel yn ystod y cyfnod clo

Roedd 18,430 o fyfyrwyr Cymru wedi gwneud cais am le prifysgol erbyn mis Ionawr eleni, cyn i coronafeirws daro'r DU.

Yn ôl Undeb y Prifysgolion a'r colegau, gallai'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol olygu bod nifer y glasfyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru fod mwy na 13,000 yn llai na'r disgwyl yn ystod 2020-21.

Yn ôl eu hamcangyfrifon nhw, gallai fod 7,000 yn llai o fyfyrwyr o tu fewn y DU, a dros 5,500 yn llai o fyfyrwyr rhyngwladol, yn cynnwys o'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae'n hollbwysig rŵan bod prifysgolion yn cyfathrebu'n onest efo myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Ar hyn o bryd, dwi'm yn meddwl bod prifysgolion wedi bod yn cyfathrebu'n onest efo myfyrwyr os ydw i'n onest.

"Dwi'n meddwl bod rhaid iddyn nhw siarad yn lot cliriach am beth fedar myfyrwyr ddisgwyl o fis Medi ymlaen a chydnabod a chyfaddef nad ydan nhw yn gwybod popeth.

"Dwi'n meddwl bod rhai prifysgolion wedi trio codi gobeithion myfyrwyr, yn rhoi syniadau y bydd prifysgolion yn gallu mynd nôl i normal yn gynt na fyddan nhw mewn gwirionedd."

Mae Erin Williams, 18, o Gricieth, wedi cael cynnig i astudio cwrs cyfathrebu gweledol ym mhrifysgol celf Leeds ac yn dweud nad yw hi wedi cael gwybod pryd na sut fydd ei chwrs yn dechrau.

"Dwi'm 'di rili clywad dim byd gynnon nhw ar y funud. Dwi wedi neud cais am le i aros ond 'di nhw ddim wedi anfon dim byd am be fydd yn digwydd y flwyddyn nesa. Dwi'm yn siŵr bo' nhw'n gwybod be ma' nhw'n mynd i neud a bod yn onest!"

Yn ôl Erin mae nifer o'i ffrindiau wedi penderfynu gohirio dechrau'r brifysgol.

Ond mae Erin yn benderfynol o ddechrau cyn gynted â phosib ac yn hyderus y bydd hi'n ddiogel i fyw ar y campws.

"Dwi isho cychwyn blwyddyn yma hyd yn oed os bydd o'n wahanol achos dwi'n meddwl bydd o'n well i fi."

Yn ôl arolwg gafodd ei ryddhau gan gwmni llety myfyrwyr Unite Students yr wythnos ddiwethaf, mae naw o bob 10 myfyriwr - 89% - yn awyddus i ddychwelyd i gampws prifysgolion.

Ond roedd 91% o'r 500 o fyfyrwyr gafodd eu holi yn poeni am effaith coronafeirws ar eu cyrsiau, tra bod 79% yn poeni am effaith andwyol ar eu profiad prifysgol.

Roedd 76% hefyd yn pryderu am yr effaith hir-dymor am eu cyfleon o sicrhau gwaith.

Ffynhonnell y llun, Photofusion

Mewn ymateb i sylwadau NUS Cymru, mae cyngor Prifysgolion Cymru yn dweud ei bod hi'n anodd i brifysgolion yng Nghymru ddweud beth yn union fydd yn digwydd.

"Wrth i'r sefyllfa o ran Covid-19 barhau i esblygu, mae prifysgolion yng Nghymru yn cynllunio ar gyfer ystod o senarios ar gyfer dychwelyd i ddysgu'n ddiogel," medd llefarydd.

"Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd i sefydliadau amlinellu cynlluniau penodol yn yr amgylchiadau presennol, na darparu myfyrwyr â llinell-amser bendant i gadarnhau sut olwg fydd ar eu profiad prifysgol yn yr hydref.

"Fodd bynnag, mae prifysgolion yn gweithio'n galed ar eu cynlluniau ac yn bod yn dryloyw wrth i'r rhain gael eu ffurfio, gan sicrhau bod myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

"Er ei bod yn debygol y bydd rhai newidiadau i'r ffordd y bydd cyrsiau gradd yn cael eu cyflwyno i ddechrau oherwydd gofynion iechyd cyhoeddus, rydym yn obeithiol na fydd hyn ond yn berthnasol am gyfran fach o amser myfyrwyr yn y brifysgol."