Ysbyty preifat wedi trin 1,000 o gleifion GIG Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Ysbyty Spire CaerdyddFfynhonnell y llun, Spire Healthcare

Mae ysbyty preifat yng Nghaerdydd wedi trin 1,000 o gleifion y GIG ers dechrau cytundeb sy'n galluogi ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ganolbwyntio ar ofalu am gleifion coronafeirws.

Dan gytundeb sy'n cael ei ddisgrifio'n "garreg filltir" mae Ysbyty Spire yn trin cleifion â chyflyrau fel canser ac achosion brys eraill.

Mae cleifion Covid-19 yn cael gofal ym mhrif ysbytai'r bwrdd, gan gynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac Ysbyty Llandochau ym Mhenarth.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Len Richards fod y cytundeb wedi sicrhau gwasanaethau "diogel ac amserol" i gleifion â chyflyrau heb law coronafeirws oedd angen gofal brys.

Mae Ysbyty Spire wedi trin cleifion â sawl math o ganser, gyda'r gofal yn amrywio o lawdriniaethau i apwyntiadau cleifion allanol.

Yn ogystal mae wedi gofalu am bobl gydag anhwylderau calon brys a chyflyrau'r llygaid.

Ffynhonnell y llun, Spire Healthcare

Fe wnaeth yr ysbyty hefyd roi tri pheiriant anadlu ar fenthyg i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn Llantrisant ar ddechrau'r pandemig.

Bryd hynny roedd nifer achosion Covid-19 ar gynnydd yn Rhondda Cynon Taf ac roedd yn anodd darogan maint y galw tebygol am ofal dwys.

Mae'r bartneriaeth rhwng perchennog yr ysbyty, cwmni Spire Healthcare a'r bwrdd iechyd yn rhan o gytundeb cenedlaethol, ble mae'r sector iechyd preifat yn cynnig staff, offer ac adnoddau i GIG Cymru i liniaru pwysau'r pandemig.

"Llawdriniaeth hanfodol, ddiogel"

Mae un o'r cleifion, Ruth Morgan, wedi disgrifio pa mor ddiolchgar oedd hi bod modd iddi gael triniaeth canser y fron yn ddiweddar yn Ysbyty Spire.

"Er ein bod yng nghanol pandemig, ro'n i'n dal yn gallu cael llawdriniaeth hanfodol a chefnogaeth feddygol ardderchog dan amgylchiadau ble ro'n i'n teimlo'n ddiogel," meddai.

Dywedodd Fiona Conway, Cyfarwyddwr Ysbyty gyda Spire Healthcare, eu bod yn falch i helpu "lleihau'r pwysau ar ein cydweithwyr gofal iechyd sy'n gofalu am gleifion coronafeirws ar y rheng flaen".

Ychwanegodd: "Mae pawb, yn gywir, yn canolbwyntio ar drechu coronafeirws ar y foment, ond mae'n hanfodol nad ydyn ni'n esgeuluso'r cleifion hynny sydd angen triniaethau neu ddiagnosis brys eraill.

"Mae llwyddiant y bartneriaeth yma'n amlygu ymroddiad y GIG a'r sector annibynnol i addasu'n gyflym yn wyneb yr argyfwng iechyd byd-eang digynsail yma a dod ynghyd i roi gofal gwych i bobl Caerdydd a'r ardaloedd cyfagos."