Achosion o coronafeirws mewn ffatri ieir
- Cyhoeddwyd
Mae tua chwarter y gweithlu mewn ffatri brosesu ieir yn hunan ynysu wedi i achosion o Covid-19 ddod i'r amlwg, medd undebau.
Mae cynrychiolwyr yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn, yn dweud fod 13 o achosion wedi'u cadarnhau ymysg staff a bod 110 yn hunan ynysu.
Nid yw'r cwmni wedi cadarnhau nifer yr achosion.
Ond dywedodd rheolwyr bod y cwmni yn "gweithio i ddarparu amgylchedd gwaith mwyaf diogel posibl".
Nifer o achosion
Mae undebau wedi disgrifio'r digwyddiad fel "ton sylweddol o achosion" a dywedodd Paddy McNaught, swyddog rhanbarthol Unite: "Mae'r cwmni'n cymryd hyn o ddifri.
"Mae ein swyddogion yn gweithio gyda'r cwmni i roi mesurau gwarchodol mewn lle.
"Ond does dim amheuaeth fod ofn ar bobl. Maen nhw'n bryderus am fynd â'r feirws adre i aelodau bregus o'u teuluoedd, ac yn poeni am greu ton o achosion ar yr ynys."
Ychwanegodd bod y cwmni a'r undeb yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i roi uned brofi symudol ar y safle fel bod pobl yn gallu cael prawf yn gyflymach.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 16 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae 2 Sisters Food Group yn un o gynhyrchwyr bwyd mwya'r DU.
Mae gan y cwmni ffatri arall yn Sandycroft yn Sir y Fflint, ac yn dweud nad oes unrhyw achosion o coronafeirws yno ar hyn o bryd.
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a nifer o asiantaethau eraill i gynghori'r cwmni a staff cefnogol.