'Rhaid gwaredu 2.8m peintiau o gwrw o dafarndai Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y Duke of Wellington pub yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na allai roi unrhyw addewidion ynghylch pryd y bydd tafarndai yn ailagor

Mae angen taflu tua 2.8m o beintiau o gwrw sydd wedi dyddio o dafarndai a chlybiau Cymru, yn ôl amcangyfrif mudiad CAMRA (Campaign for Real Ale).

Ond mae cwrw, sy'n "llygrol iawn", yn peri "risg amgylcheddol sylweddol" yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywed Dŵr Cymru y bydd yn gweithio gyda busnesau "i gytuno sut a phryd y gellir cael gwared ar y diodydd".

Ond mae AS Plaid Cymru wedi rhybuddio nad oedd y cwmni wedi arfer delio â chymaint o hen gwrw.

Mae'r 3,500 o dafarnau a chlybiau yng Nghymru - ynghyd â chaffis a bwytai - wedi bod ar gau ers 20 Mawrth.

Codwyd y mater gyda gweinidog yr amgylchedd Lesley Griffiths gan AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd ym mhwyllgor amgylchedd y Senedd yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddo fynychu cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarnau yn gynharach.

Dywedodd Mr Gruffydd fod tafarnau a bragwyr yn "gweithio gyda Dŵr Cymru orau y gallant i geisio rheoli 'dinistr'... y cwrw".

Gofynnodd a oes gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn hynny oherwydd ei fod yntau wedi clywed "fod hyn yn creu problemau capasiti i gwmni Dŵr Cymru - dydyn nhw ddim wedi arfer gorfod delio â'r swm hwn o gwrw y mae angen ei waredu ac os ydynt yn ei gael yn anghywir yna yn amlwg bydd canlyniadau amgylcheddol".

Ymatebodd Lesley Griffiths "Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim wedi meddwl am gwrw yn cael ei ddinistrio, ond mae'n gwneud synnwyr yn y ffordd rydych chi wedi'i egluro ac, yn amlwg, byddai problem ynglŷn â ble y byddai'n mynd."

Ychwanegodd y byddai'n sicrhau ei fod ar yr agenda ar gyfer ei chyfarfod nesaf gyda Dŵr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o dafarndai JD Wetherspoon yng Nghaerdydd ar y noson olaf cyn y cyfnod cloi

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru wrth BBC Cymru: "Rydym yn y broses o gysylltu â thafarndai i weld sut y gallwn weithio gyda nhw i gael gwared ar ddiodydd sydd wedi dyddio.

"Er ein bod yn awyddus i gefnogi'r busnesau hyn ym mha bynnag ffordd y gallwn, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod unrhyw warediad i'r rhwydwaith carthffosiaeth yn cael ei wneud mewn ffordd reoledig a gofalus.

"Byddwn yn gweithio gyda'r busnesau hyn i gytuno sut a phryd y gellir cael gwared ar y diodydd ac rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru."

Mae CAMRA yn amcangyfrif bod gan y 3,500 o dafarndai a chlybiau yng Nghymru, ar gyfartaledd, 10 casgen yn eu seler ar unrhyw adeg benodol.

Mae'r mwyafrif yn cynnwys 11 galwyn (88 peint) yr un - er bod llawer o gwrw yn dod mewn casgenni naw galwyn (72 peint).

Mae'r dyddiadau gorau cyn hynny ar gwrw wedi'i basteureiddio - gan gynnwys y mwyafrif o lagers - fel arfer tri neu bedwar mis ar ôl eu dosbarthu, tra bod y rhai ar gyfer cwrw go iawn a chwrw arall heb ei basteureiddio fel arfer yn chwech i naw wythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae gwaredu cwrw yn amhriodol yn peri risg amgylcheddol sylweddol gan ei fod yn llygrol iawn.

"Ein gwaith ni yw amddiffyn afonydd Cymru felly rydyn ni'n siarad â chwmnïau dŵr am waredu cwrw sydd wedi dyddio yn ddiogel oherwydd cyfnod y cloi.

"Gofynnwn i'r sector lletygarwch gysylltu â'u cwmni dŵr, neu os nad ar garthffos gyhoeddus i gysylltu â ni, i ddod o hyd i ateb i waredu cwrw mewn ffordd sydd ddim yn niweidio'r amgylchedd.

"Rhaid peidio â chael gwared â chwrw i garthffos heb ganiatâd y cwmni dŵr perthnasol, nac ychwaith i waith carthffosiaeth preifat, tanciau septig na draeniau dŵr wyneb, gan y bydd hyn yn effeithio ar yr amgylchedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol