Covid-19: Gorchymyn i gau tafarndai, clybiau a bwytai

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn sy'n gorfodi tafarndai, clybiau, bwytai a mannau cyhoeddus eraill i gau nos Wener fel rhan o'r ymdrech i atal Covid-19 rhag lledaenu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y cam yn cael ei weithredu dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1984, a'i fod yn dod i rym yn syth.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod i gytuno ar fesurau pellach i arafu lledaeniad yr haint sy'n berthnasol i bedair gwlad y DU.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn cydnabod "effaith aruthrol" y gorchymyn diweddaraf ar bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sectorau perthnasol ond mai "dyma'r peth iawn i'w wneud".

Mae'r pwerau newydd hefyd yn berthnasol i ganolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio.

Dywedodd y Prif Weinidog fod "llawer o bobl wedi gwrando" ar y cyngor i gadw draw o lefydd cyhoeddus yn cynnwys tafarndai a bwytai ac "ymddwyn yn gyfrifol er budd ein cymdeithas gyfan ni.

Ond erbyn hyn, meddai, mae'n rhaid i bawb wneud yr un peth "oherwydd fel arall, ni fyddwn yn arafu'r afiechyd ar y raddfa sy'n angenrheidiol.

'Gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd'

Dywedodd: "Nid ydym yn cymryd y cam hwn heb ystyriaeth ddwys ac rydym yn gwybod y bydd yn cael effaith aruthrol ar y rhai sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiannau sy'n cael eu heffeithio.

"Ond dyma'r peth iawn i'w wneud.

"Rydym yn mynd i'r afael â'r feirws mewn ffordd benderfynol a than reolaeth er mwyn gwarchod a gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni."

Ychwanegodd: "Gyda'n gilydd fe allwn ni wneud gwahaniaeth."