Abertawe yn gwrthod awgrym tâl atal tagfeydd

  • Cyhoeddwyd
Fabian Way in SwanseaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd Fabian yw'r prif lôn sy'n cysylltu dwyrain Abertawe gyda'r M4

Does yna ddim cynlluniau i gyflwyno tâl atal tagfeydd ar gyfer canol Abertawe, yn ôl arweinydd cyngor y ddinas.

Roedd cynghorwyr Abertawe wedi galw ar Rob Stewart i ystyried tâl o'r fath ar gyfer lôn brysur Ffordd Fabian.

Yr A483 yw un o'r prif lonydd i Abertawe o'r M4, gyda thagfeydd hir yn broblem reolaidd cyn y pandemig.

Ond dywedodd Mr Stewart ei fod am chwilio am opsiynau eraill yn hytrach na gosod "rhwystrau" i rai sydd am ymweld â'r ddinas.

Mae ansawdd awyr dinasoedd a threfi wedi gwella yn ystod y cyfnod clo, gyda'r rhan fwyf o bobl yn aros yn eu cartrefi.

Roedd y cynghorydd Joe Hale wedi gofyn i bwyllgor craffu'r cyngor i ystyried gosod tâl atal tagfeydd ar gyfer y ddinas.

"Mae traffig yn aros yn ei hunfan pum diwrnod yr wythnos - neu dyna o leiaf oedd yn digwydd, "meddai'r cynghorydd Hale.

"Nawr fe allwch gerdded ar draws Ffordd Fabian. Mae'n bleser pur gallu cerdd i SA1."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gynllun £135m wedi dechrau i ddenu pobl i ganol Abertawe.

Ond dywedodd Mr Stewart ei fod yn awyddus i weld llwybrau ychwanegol ar gyfer bysiau, seiclwyr a cherddwyr, yn ogystal â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei fwriadu ar gyfer cynllun-metro o fath ar gyfer ardal Bae Abertawe.

Dywedodd ei fod hefyd yn disgwyl i lefau traffig ostwng, gyda mwy o bobl yn cerdded i'r gwaith.

"Rwyf am wneud yn siŵr ei bod yn haws iddynt ddod i'w gwaith mewn modd sydd ddim yn niweidiol i'r amgylchedd, yn hytrach na'u ceryddu neu ddirwyo am geisio dod i mewn i'r ddinas," meddai.

Ym mis Mawrth penderfynodd Cyngor Caerdydd wrthod cynllun £32m i gyflwyno tal atal tagfeydd yn y brifddinas.