Gwrthod tâl atal tagfeydd yng Nghaerdydd yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd tâl atal tagfeyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor bellach o'r farn y byddai cyflwyno'r tal yn cosbi perchnogion ceir hŷn

Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd i beidio â gosod tâl atal tagfeydd yn y brif ddinas yn "siomedig", yn ôl Awyr Iach Cymru.

Roedd y cyngor yn ystyried cyflwyno'r tâl fel rhan o gynllun £32m i leihau llygredd awyr a chyrraedd targedau amgylcheddol.

Mae'r awdurdod bellach o'r farn y byddai cyflwyno'r tal yn cosbi perchnogion ceir hŷn ac yn symud y broblem i rannau eraill o'r ddinas.

Dywedodd Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru: "Rydyn ni'n gobeithio gweld y cyngor yn gwyrdroi'r penderfyniad er mwyn amddiffyn y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y llygredd."

Ymysg y cynlluniau eraill sydd yn cael eu hystyried gan y cyngor mae:

  • Cynyddu nifer y bysiau yng nghanol y ddinas;

  • Cyflwyno mwy o lonydd seiclo;

  • Cynyddu nifer y bysiau trydan.

Bydd trwydded tacsi ond yn cael eu rhoi i gerbydau sy'n cyrraedd safonau allyriadau Euro 6 ac mae'r awdurdod yn bwriadu rhoi £4.5m tuag osod terfynau cyflymder o 20mya newydd ar hyd y ddinas.

'Ardal awyr glan yn hanfodol'

Ychwanegodd Mr Carter: "Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd yn siomedig... mae gosod tâl atal tagfeydd mewn dinasoedd yn un o'r dulliau fwyaf effeithiol o leihau allyriadau cerbydau.

"Credwn fod cyflwyno ardal awyr glan yn hanfodol os ydyn ni am daclo'r lefelau llygredd peryglus ar hyd y ddinas."

Ychwanegodd: "Er ein bod ni'n croesawu cynlluniau eraill y cyngor, mae'r ffocws ar derfynau cyfreithiol yn dangos diffyg uchelgais."

Yn ôl y Cynghorydd Caro Wild, aelod o'r cabinet ar gyfer trafnidiaeth, mae Caerdydd "o fewn y terfynau cyfreithiol ar hyd y ddinas, ond y glanaf yw'r aer y gorau fydd hi i bawb".