'Angen cryfhau' cynlluniau i daclo safon aer gwael

  • Cyhoeddwyd
Llygredd aerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen cryfhau cynlluniau i fynd i'r afael â safon aer gwael yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y mater ar ôl cyfaddef i'r Uchel Lys ei fod wedi methu â chyrraedd targed yr UE ar lygredd aer.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn, ei bod "wedi ymrwymo'n llwyr" i gwblhau'r camau cyntaf tuag at droi Cymru'n "wlad aer glan" erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Ond mae Cyfeillion y Ddaear yn galw am "neges gliriach" a mwy o frys gan weinidogion.

'Gweithredu siomedig'

Bydd ymgynghoriadau ar gyflwyno Ardaloedd Awyr Glan a chyfyngiadau cyflymder 50mya ar ffyrdd ble mae nitrogen deuocsid yn uwch na'r lefel gyfreithlon yn cau ymhen pythefnos.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo rhoi cynlluniau mewn lle i fynd i'r afael â llygredd aer erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Daw hyn wedi iddyn nhw gyfaddef yn yr Uchel Lys eu bod wedi methu â chyrraedd targedau'r Undeb Ewropeaidd ar ostwng llygredd aer.

Ymgyrchwyr ClientEarth oedd wedi mynd â'r llywodraeth i'r llys, a dywedon nhw eu bod yn "siomedig" gyda'u diffyg gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai cyfyngiadau cyflymder gael eu gosod ar ffyrdd ble mae llygredd aer yn uchel

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn eilio hynny, gan ddweud wrth raglen Eye on Wales y gallai "cynigion Llywodraeth Cymru fod yn gryfach".

"Dydyn nhw ddim yn gwneud yn amlwg y dylai Ardaloedd Awyr Glan gael eu gosod ar draws Cymru," meddai cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar.

"Rydyn ni angen ymgynghori ar sut y byddan nhw'n gweithredu - nid a ddylen nhw ddigwydd yn y lle cyntaf.

"Ry'n ni wir angen mwy o frys gan Lywodraeth Cymru a neges gliriach i awdurdodau lleol."

'Ymrwymo'n llwyr i'r targed'

Ond dywedodd Ms Blythyn bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gyrraedd yr addewidion gafodd eu gwneud yn yr Uchel Lys, ac y bydd mwy o weithredu yn dilyn yn hwyrach yn y flwyddyn.

"Dyw hi ddim yn ymwneud gyda chydymffurfio â rheolau'r UE a'r achos llys yn unig - mae'n flaenoriaeth am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ac yn bwysig i iechyd ein cymunedau," meddai.

"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gyrraedd y targed erbyn diwedd Gorffennaf.

"Mae Llywodraeth Cymru a'n swyddogion yn gweithio gyda hapddalwyr ac awdurdodau lleol i wneud yn siŵr nad ydyn ni'n cyrraedd y targed yn unig, ond sicrhau bod Cymru'n cael ei gweld fel gwlad aer glan."