Rhybudd iechyd wedi 158 o achosion Covid-19 ym Môn

  • Cyhoeddwyd
2 SistersFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2 Sisters yn cynhyrchu traean o holl gynnyrch cig ieir y DU

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod ymlediad coronafeirws mewn ffatri prosesu cig ar Ynys Môn yn brawf bod yn rhaid bod yn wyliadwrus rhag Covid-19 o hyd.

Daeth cadarnhad ddydd Sul bod 158 aelod o staff ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi'u heintio â'r feirws.

Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog Economi Ken Skates wedi awgrymu y gallai cyfyngiadau coronafeirws aros fel ag y maen nhw ar Ynys Môn er mwyn cadw rheolaeth ar ymlediad yr haint.

"Mae'n rhaid cofio nad yw Covid-19 wedi mynd i ffwrdd," medd Dr Christopher Johnson, Ymgynghorydd Amddiffyn Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos bod 'na botensial y gallai pocedi asymptomatig o'r haint fod yn y gymuned, ac yn dangos pwysigrwydd glynu wrth fesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau glendid."

Disgwyl i'r niferoedd gynyddu

Mae pob un o'r 560 aelod o staff bellach yn hunan ynysu a'r ffatri ar gau dros dro, ac mae swyddogion iechyd yn disgwyl i'r nifer gynyddu eto.

Mae Gweinidog Economi Cymru, Ken Skates wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi'n hanfodol bod coronafeirws yn "cael ei gadw mor lleol ag sy'n bosib".

Wrth drafod ymlediad yr haint ar Ynys Môn, dywedodd na all ddiystyru'r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau lleol i geisio atal y feirws rhag lledu ymhellach.

Rhybudd iechyd

"Hoffwn atgoffa pawb os ydych chi neu aelod o'ch teulu yn dechrau peswch, neu'n cael symptomau o dymheredd uchel neu newid o ran synnwyr blasu neu arogli, y dylech archebu prawf am Covid-19 ar unwaith er mwyn help rheoli lledaeniad yr haint," medd Dr Johnson.

"Ry'n ni'n annog pawb i lynu wrth ganllawiau ymbellhau cymdeithasol - hynny yw, cadw dwy fetr ar wahân, golchi dwylo yn rheolaidd, a gweithio o adref lle bo hynny'n bosibl.

"Dylech osgoi rhannu lifft gyda unrhyw un tu allan i'ch cartref, a sicrhau bod pellter cymdeithasol wrth gyrraedd a gadael eich gweithle."

Mae arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, wedi cadarnhau bod y cyngor yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru ddydd Llun ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau lleol ar yr ynys.

Dywedodd mai lles pobl, a lles yr economi yw'r flaenoriaeth.

"Mae'n ddyddiau cynnar i drafod lockdown lleol," meddai, "'Dan ni yn trafod â Llywodraeth Cymru be ma hynny'n edrych fel a sut ma' gorfodi rhywbeth fel 'na.

"Mae'n bwysig iawn bod pobl Ynys Môn yn teimlo'n saff ond hefyd mae'n bwysig bod busnesau'n cael eu diogelu."

Fydd ysgolion y sir ddim yn ailagor ar 29 Mehefin oherwydd sefyllfa ffatri 2 Sisters, ond dywedodd y bydd siopau yn ailagor ar 22 Mehefin a bod disgwyl i bawb lynu wrth y canllawiau.

Pryder mawr ar Ynys Môn

Wrth ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd ddydd Sul, dywedodd Llinos Medi, bod ymlediad yr haint yn "achos pryder ar Ynys Môn", ond nid yn gwbl annisgwyl.

"O'ddan ni'n disgwyl gweld niferoedd uchal. O'n i'n gw'bod bod y gweithlu i gyd yn mynd i gael eu profi, ac o'ddan ni'n disgwyl gweld hyn oherwydd amodau'r ffatri," meddai.

"'Dan ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd mewn llefydd tebyg ar draws y byd. Ma'r feirws yn lledu ynghynt mewn lleoedd fel hyn."

Mae'n dweud bod mwyafrif llethol y gweithwyr wedi cael prawf yn barod ond bod 'na bosibilrwydd nad yw pob aelod o staff 2 sisters wedi cael y neges eto. Dywedodd ei bod yn erfyn ar bob un i wrando ar y cyngor meddygol.

"Plîs, mae'n bwysig eich bod chi'n cael eich profi," meddai.

"Mae hyn yn hollbwysig er mwyn atal lledaeniad yr haint a rhagor o achosion positif o fewn ein cymunedau."

Profi mwy o'r gweithlu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod 400 o'r gweithwyr wedi cael eu profi ers i'r haint ymddangos yno.

"Ers 15:00 ar ddydd Sul 21 Mehefin, ry'n ni wedi cofnodi cynnydd o 83 achos positif dros y 24 awr diwethaf," dywedodd.

"Bydd y gwaith o brofi gweithwyr yn parhau, ac mae disgwyl y bydd achosion ychwanegol yn dod i'r amlwg dros y dyddiau nesaf.

"Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion yn unol â'r hyn yn roedden ni yn ei ddisgwyl pan gyflwynon ni gynllun tracio ac olrhain. Dydi o ddim yn golygu bod ymlediad yr haint yn cynyddu.

"Cafodd safleoedd profi eu sefydlu yn Llangefni ac yng Nghaergybi, ac mewn safle oedd eisoes mewn defnydd ym Mangor, wedi i'r haint ddod i'r amlwg."

Gwaith cynhyrchu ar stop

Mae pob un o'r gweithwyr wedi cael cais i hunan-ynysu am 14 diwrnod ac i gael prawf.

2 Sisters yw un o'r proseswyr bwyd mwyaf yn y DU gan brosesu tua traean o'r holl gynnyrch dofednod sy'n cael ei fwyta ym Mhrydain.

Mae'r gwaith cynhyrchu wedi dod i ben dros dro wrth i'r ffatri gau am gyfnod amhenodol.

Mae hyn wedi effeithio ar gyflenwadau i awdurdodau lleol, ysbytai, bwytai a busnesau bychain.

Ydi bwyd yn ddiogel?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Asiantaeth Safonau wedi dweud nad oes rheswm i ofni bwyta cig ieir

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio nad oes perygl y gallai Covid-19 ledu drwy'r gadwyn fwyd.

"Er mwyn bod yn gwbl eglur, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud ei bod hi'n annhebygol iawn y gallwch chi ddal coronafeirws o fwyd," meddai llefarydd.

"Mae Covid-19 yn salwch sy'n effeithio ar y system anadlu.

"Does dim gwybodaeth i awgrymu ei fod yn cael ei drosglwyddo mewn bwyd nac ar becynnau bwyd."

Lleddfu pryderon

Er bod y sefyllfa yn un bryderus, medd Llinos Medi, mae arweinydd y cyngor yn galw ar bobl Môn i beidio â phoeni yn ddiangen.

"Dwi'm isho neb ofidio," dywedodd. "Byddwn ni'n cyfathrebu efo'r cyhoeddi be 'di'r camau nesa o ran twristiaid hefyd.

"Dwi'm isho chi boeni. Mae llesiant meddyliol yn bwysig a dydw i'm isho gweld neb yn mynd i orbryder.

"Mae'n bwysig eich bod yn diogelu eich hun o ran y feirws ond o ran eich llesiant meddyliol hefyd."