1 marwolaeth Covid arall yn cynyddu'r cyfanswm i 1,477

  • Cyhoeddwyd
nyrs

Mae un person yn rhagor wedi marw gyda symptomau coronafeirws yng Nghymru, gan ddod âr cyfanswm i 1,477.

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yna 100 o achosion newydd, gan olygu hyd yn hyn bod 15,126 o bobl wedi profi'n bositif i'r haint.

Mae cyfanswm o 121,370 o unigolion wedi cael prawf coronafeirws yng Nghymru gyda 106,244 yn profi'n negyddol.

Cyfanswm nifer y profion yw 151,484, gan fod rhai pobl wedi cael prawf mwy nag unwaith.

Roedd y farwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Cafodd unig farwolaeth yng Nghymru ddydd Sadwrn, hefyd ei chofnodi yn ardal Betsi Cadwaladr.

Yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae cyfanswm o 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws wedi bod yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at bobl sydd wedi eu cadarnhau gyda Covid-19, neu y credir eu bod wedi ei heintio hyd at 22 Mai.