Pryder bod ASau'n gwneud cwynion am aelodau eraill

  • Cyhoeddwyd
Dogulas Bain
Disgrifiad o’r llun,

Douglas Bain yw Comisiynydd Safonau Dros Dro y Senedd

Mae Comisiynydd Safonau Dros Dro'r Senedd wedi mynegi pryder bod nifer o Aelodau o'r Senedd yn cyflwyno cwynion am aelodau eraill i "sgorio pwyntiau".

Fe wnaeth Douglas Bain fynegi pryder bod nifer bach o ASau yn gwneud cwynion yn erbyn ASau eraill, neu'n cael rhywun o'r cyhoedd i gyflwyno cwynion drostyn nhw.

Fe wnaeth un AS wneud saith cwyn yn erbyn aelodau eraill, ond dim ond un o'r cwynion hynny oedd yn dderbyniadwy.

Dywedodd Mr Bain bod defnyddio'r broses cwyno i "sgorio pwyntiau gwleidyddol a chael aelod o'r cyhoedd i gyflwyno cwynion er mwyn cuddio pwy ydyn nhw yn gamddefnydd o'r broses".

Swyddfa gostus

Mae'r gost o redeg swyddfa Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi bron dyblu mewn blwyddyn.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau Dros Dro mai aelod ychwanegol o staff oedd y "prif rheswm" am gynnydd mewn costau swydd o £76,384 yn 2018-19 i £156,460 yn 2019-20.

Dros y cyfnod yna bu cynnydd yn nifer y cwynion am Aelodau Senedd o 43 i 106 - cynnydd o 147%.

Ond roedd mwyafrif llethol y cwynion gafodd eu gwneud - 85.9% - yn annerbyniadwy.

Dywedodd Douglas Bain, Comisiynydd Safonau Dros Dro y Senedd, ei fod yn bwriadu cyflwyno canllawiau newydd dros y flwyddyn i ddod er mwyn "ceisio egluro'n well i'r cyhoedd beth y mae'r Comisiynydd yn medru delio gydag e a beth dyw e ddim".

Wrth siarad am ei adroddiad blynyddol, ychwanegodd: "Byddaf wedyn yn edrych ar sut i ledaenu'r neges yna i'r cyhoeddi.

"Ond fyddwn i ddim yn dweud bod yr holl gwynion a wrthodwyd yn ffug neu annilys.

"Os oes aelod o'r cyhoedd yn wir gredu bod Aelod o'r Senedd wedi bod yn euog o gamymddwyn, mae'n iawn eu bod yn gallu cwyno a bod y mater wedyn yn cael ei ystyried gan gomisiynydd cwbl annibynnol."

Dywedodd bod y cynnydd yn nifer y cwynion yn dangos bod y cyhoedd yn talu sylw agos, a'i fod yn fodlon bod "bron bob aelod yn parhau i gyrraedd y safon uchaf o ymddygiad sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw".

Cyfryngau cymdeithasol

O'r 106 o gwynion a dderbyniwyd yn 2019-20, roedd 85.9% yn annerbyniadwy, yn bennaf am eu bod yn trafod "mynegiadau barn gan AS" ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond dywedodd Mr Bain hefyd nad oedd yn credu ei bod "yn briodol i roi canllawiau ar wahân am beth sy'n briodol i ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na beth fedrwch chi ddweud wyneb yn wyneb".

Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r perygl o wneud hynny yw eich bod chi'n creu gwahaniaeth ffug rhwng y ddau beth.

"Mae'r un safon o ymddygiad yn ddisgwyliedig gan aelodau bob amser, ac fe ddylai aelodau, fel pawb arall, ystyried yn ofalus cyn trydar neu hoffi unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol."

Cafodd Douglas Bain ei benodi fel Comisiynydd Safonau Dros Dro ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn ymddiswyddiad Syr Roderick Evans o'r swydd.