Rhagor o ysgolion i ailagor am dair wythnos yn unig

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhestr o'r cynghorau sydd yn bwriadu ailagor ysgolion am dair wythnos yn unig o 29 Mehefin yn tyfu.

Bwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd y byddai ysgolion yn agor am bedair wythnos, cyn cau am yr haf ar 24 Gorffennaf.

Ond roedd undebau'n poeni y byddai hyn yn achosi problemau i gytundebau staff.

Gan mai mater i'r cynghorau yw penderfynu yn y pen draw, mae nifer cynyddol o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi na fydd eu hysgolion yn agor am fwy na tair wythnos o ddydd Llun nesaf ymlaen.

Llythyrau Gwynedd

Fore dydd Llun fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd, mewn llythyr at rieni a gofalwyr y sir, na fyddai'r ysgolion yno ar agor am fwy na thair wythnos - gan ymuno gyda phenderfyniad cynghorau Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Casnewydd a Wrecsam i gau wedi tair wythnos.

Yn y llythyr, dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson: "...deallwn na all Llywodraeth Cymru a'r undebau llafur ddod i safbwynt cyffredin cenedlaethol ynghylch y bedwaredd wythnos (20-24 Gorffennaf), er gwaetha'r trafodaethau maith. O'r herwydd, bydd ysgolion Gwynedd yn cau ar gyfer gwyliau'r haf ar 17 Gorffennaf".

'Siom' ysgolion Ceredigion

Cafwyd cadarnhad mewn llythyr gan Gyngor Ceredigion fore dydd Llun hefyd na fydd ysgolion y sir yn agor yn hirach na thair wythnos o 29 Mehefin.

Dywedodd y Cyngor: "Mae Cyngor Ceredigion a'n holl ysgolion yn siomedig iawn nad ydym mewn sefyllfa i agor am y bedwaredd wythnos fel a gyhoeddwyd yn wreiddiol.

"Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau cytundeb gydag Undebau Llafur eu bod yn bwriadu ymestyn y tymor ysgol.

"Oherwydd hyn, byddai staff allweddol mewn ysgolion yn gweithio'n groes i'w contract cyflogaeth yn ystod y bedwaredd wythnos wirfoddol."

Ychwanegodd y llythyr: "Mae nifer o staff eisoes yn methu â mynychu safleoedd ysgolion am resymau meddygol teilwng, a gallai'r wythnos ychwanegol arwain at rai ysgolion yn brin o staff, ac o bosibl yn methu ag agor o gwbl.

"Bydd ysgolion Ceredigion felly yn cau i ddisgyblion ar ddyddiad gwreiddiol diwedd tymor yr haf, sef 17 Gorffennaf."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Bydd ysgolion Conwy a Phowys yn dychwelyd am bedair wythnos ac mae Cyngor Ynys Môn eisoes wedi cyhoeddi na fydd ysgolion y sir yn ailagor ar 29 Mehefin "o ganlyniad i'r cynnydd diweddar mewn achosion positif o'r coronafeirws ar yr ynys".

Bydd y sir yn cynnal trafodaethau pellach yr wythnos hon cyn penderfynu os byddant yn ailagor o gwbl cyn diwedd y tymor.

Mae'r gwahaniaeth mewn dyddiadau diwedd tymor yn dilyn anghytuno rhwng y llywodraeth ac undebau.

Mae trafodaethau yn parhau ond mae rhai cynghorau wedi gwneud penderfyniad terfynol am "nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei adael tan y funud olaf".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i awgrymu ymestyn y tymor, a'u bod yn "cydnabod mai penderfyniad i'r awdurdodau ydy hyn yn y pendraw".

Dywed Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn credu y byddai wythnos ychwanegol cyn yr haf yn "bwysig iawn i helpu ysgolion i gymryd dull graddol o gefnogi pob plentyn a pherson ifanc."

Ond dywedodd Cyngor Wrecsam fod y llywodraeth yn rhoi "ysgolion a'r cyngor mewn sefyllfa anodd iawn".

"Nid oes unrhyw rwymedigaeth cytundebol i staff weithio'r wythnos ychwanegol - gan roi'r cyfrifoldeb ar benaethiaid a staff unigol, sy'n annheg," meddai llefarydd mewn datganiad.