Perry Mason a 'bywyd syrcas' Matthew Rhys

  • Cyhoeddwyd
Matthew RhysFfynhonnell y llun, HBO

Mae'r actor o Gaerdydd, Matthew Rhys - sydd â gwobr Emmy o dan ei felt - yn ôl ar y sgrin fach, a hynny fel prif gymeriad cyfres newydd o Perry Mason.

Treuliodd chwe mis y llynedd i ffwrdd oddi wrth ei deulu wrth iddo ffilmio'r gyfres, ond mae ef, fel y rhan fwyaf ohonom, wedi cael treulio llawer mwy o amser gyda'i deulu yn ddiweddar oherwydd pandemig coronafeirws.

Cafodd Dewi Llwyd sgwrs â Matthew ar ei raglen ar BBC Radio Cymru, a holodd sut mae'r actor a'i deulu wedi ymdopi yn ystod y misoedd diwethaf:

"Yn fab i athrawon, mae mharch i tuag at fy rhieni wedi cynyddu'n enfawr, â dweud y gwir - achos mae'r gwaith ysgol o flaen y cyfrifiadur wedi bod yn sialens! Mae tri o blant gyda ni yn fan hyn, gyda gwahanol anghenion, a felly mae'r amynedd ddim falle wedi bod gyda'r gore dros yr wythnose...

"Ond mae wedi bod yn hynod o beth i fod yn yr un fan gyda nhw gyd am gymaint o amser, er yr erchylldra sydd o'n cwmpas ni."

Roedd treulio chwe mis oddi wrth ei deulu yn ôl yn Efrog Newydd, wrth iddo ffilmio cyfres newydd Perry Mason yn Los Angeles, yn anodd ar adegau, meddai.

"Ni 'di hen arfer â bywyd y syrcas erbyn hyn - neu mae'r plant 'di hen arfer, y c'raduron ag ydyn nhw! Ddaethon nhw allan am rhywfaint yn yr haf pan ddechreuon ni, wedyn o fis Medi i fis Ionawr wedyn o'n i'n hedfan yn ôl o Los Angeles i Efrog Newydd.

"O'n i'n trio gwneud bob penwythnos - ond o'n i'n gwneud gwaith i'r wasg ar gyfer ffilm arall ar y pryd, so o'dd hwnna ddim bob amser yn gweithio. Felly 'chydig yn anodd ar y teulu am y chwe mis yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Partner Matthew yw ei gyd-seren o'r gyfres The Americans, Keri Russell

Er fod y gyfres wreiddiol o Perry Mason yn canolbwyntio ar yrfa'r cyfreithiwr amddiffynnol ddiwedd y 50au a dechrau'r 60au, mae'r gyfres yma yn edrych ar ei fywyd yn ystod Los Angeles yn yr 1930au, a cafodd llawer o ymdrech ei roi i drawsnewid y ddinas i adlewyrchu hynny, yn ôl Matthew.

"Mae HBO - pan maen nhw'n gwneud eu dramâu mawr - yn taflu'r arian a'r amser tuag atyn nhw. Mi gymron ni'r amser iawn i'w gwneud hi, a dwi'n gobeithio ddaw hynny i'r sgrin.

"O'dd 'na ambell i olygfa, bydden i'n edrych o gwmpas, yn enwedig os oedd y camera yn ôl yn bell, a'r unig beth oeddech chi'n gallu gweld oedd cannoedd o bobl wedi gwisgo yn nillad yr oes - doedd dim angen dychmygu, roedd y byd o'ch blaen chi. Felly mae gwaith yr actor gymaint â hynny'n haws.

"Yn yr oes newydd o green screen, fi'n credu mae lot ohonon ni wedi arfer â jyst actio mewn rhyw wagle gwyrdd, yn gwybod fod rhyw gyfrifiadurwr yn rhoi e mewn wedyn. Ond o'dd e'n hyfryd o beth i gael pobl iawn o'ch blaen chi."

Mae Perry Mason yn gymeriad cyfarwydd i nifer, felly sut beth oedd camu i esgidiau mawr yr actor gwreiddiol, Raymond Burr?

"O'n i'n gwybod maint y rhaglen yn hanesyddol, a pha mor llwyddiannus oedd e. O'n i'n pryderu rhywfaint bydde ceisio ail-wneud rhywbeth yn gallu bod yn beryglus.

"Ond yn sicr pan glywes i mai HBO oedd yn ei gwneud hi, o'n i'n gwybod yn iawn, dim 'ail-wneud' Perry Mason bydden ni'n wneud - o'dd e'n amlwg iawn mai ail-greu Mason newydd oedd y bwriad.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Raymond Burr oedd yn actio'r cyfreithiwr Perry Mason yn y gyfres boblogaidd oedd ar y teledu o 1957 i 1966

"Siŵr fod rhan helaeth yn gwybod mai cyfreithiwr amddiffynnol oedd e, ond mae diddordeb gyda ni i wybod sut ddaeth e i'r pwynt o fod yn gyfreithiwr. O'n i'n meddwl o'dd hwnna'n ddechreuad da."

Ond dywedodd Matthew nad oedd wedi cael ei demtio i ail-wylio portread yr actor gwreiddiol o'r cymeriad.

"Dwi 'di gwneud y camgymeriad yn y gorffennol, mewn ambell beth dwi 'di 'neud, lle mae'r rhan wedi cael ei sefydlu gan actor arall.

"Dwi'n gwybod, mae gen i dueddiad ambell waith i ddwyn ac i gopïo ac i efelychu - ac o'n i'n gwybod byddai 'na ryw ran ohona i sydd eisiau dwyn rhywbeth o Raymond Burr. Yn sicr, be' o'n i eisiau ei 'neud [oedd bod] yn wreiddiol o'r sgidie lan.

"O'n i'n ffodus iawn. Ddywedon nhw, 'ni eisiau i ti weithio gyda'r sgrifennwyr a'r cyfarwyddwr gymaint ag y'n ni'n gwneud i greu y cymeriad 'ma a'r byd 'ma'. Ac o'dd e'n braf o beth cael llais yn y dewisiade a'r penderfyniade mawr, ambell waith, sy'n mynd mewn i greu drama.

"Fi'n credu'r un peth yn sicr 'nath y tîm ysgrifennu, oedd rhoi fe fel cymeriad ar siwrne eitha' epig, a mae e'n mynd drwy lot. 'Nes i fwynhau yn fawr y sialens o 'neud hynny, ac yn sicr erbyn y diwedd, o'n i'n dwymgalon iawn am y cymeriad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Matthew wobr Emmy yn 2018 am ei ran yn The Americans

Rhaid aros i weld y ffigyrau gwylio cyn bydd penderfyniad swyddogol yn cael ei wneud am ail gyfres, meddai, yn enwedig â'r diwydiant mewn safle mor ansicr ar hyn o bryd, a gwaith wedi diflannu i nifer o actorion.

Ond mae Matthew yn edrych tuag at y dyfodol - ac yn gobeithio am siwrne yn fuan yn ôl adref i Gymru:

"O'dd 'na ambell i beth yn edrych yn dda ddiwedd blwyddyn diwetha', ond fel gymaint ohonon ni nawr, mae'r dyfodol yn amheus - sut mae'r busnes yn mynd i fod yn edrych, a sut byddwn ni'n mynd yn ôl fel diwydiant. Pwy a ŵyr - amser a ddengys ar y foment, ond gobeithio ddaw hyn oll i ben.

"Dwi 'di bod yn meddwl yn aml, pryd fydd yr arfer yn ôl, pan fydd pobl yn gallu teithio. Dwi'n gobeithio yn fawr y bydd rhywbeth yn digwydd lle bydd y byd yn agor lan unwaith eto, a gallwn ni ddod â'r plant yn ôl i'r hen wlad."

Hefyd o ddiddordeb: